Mae Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) wedi cadarnhau y bydd ei Gynhadledd flynyddol i Fusnesau Bach De Cymru yn cael ei chynnal ddydd Mercher 3, Medi 2025 yn stadiwm Swansea.com a bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn un o brif noddwyr y digwyddiad.

Bydd y gynhadledd, sydd wedi dod yn ddigwyddiad pwysig yn y calendr busnes, yn cynnwys llu o siaradwyr rhagorol sy'n canolbwyntio ar dwf busnesau bach. Bydd y digwyddiad drwy'r dydd, sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf, eto eleni yn rhoi arweiniad pwerus, ymarferol i fusnesau bach sy'n bresennol.

Noddir y gynhadledd gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, ynghyd â Llywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae'r digwyddiad mewn partneriaeth â Business News Wales, ac mae wedi'i anelu at fusnesau llai ar draws ystod o sectorau.

Mae noddi'r digwyddiad hwn yn gyfle i Fargen Ddinesig Bae Abertawe gryfhau ei hamlygrwydd yn y rhanbarth ac ymgysylltu â'r gymuned entrepreneuraidd yn ne-orllewin Cymru. Mae hefyd yn atgyfnerthu ymrwymiad y Fargen Ddinesig i gefnogi twf ac arloesedd busnesau lleol, ac yn gweithredu fel llwyfan i arddangos cynnydd a'r cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau bach.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan Gemma Casey, Golygydd Business News Wales, partner cyfryngol Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru ar gyfer y digwyddiad hwn, a bydd y gynhadledd yn cynnwys sesiynau ar sawl pwnc pwysig.

Mae'r meysydd penodol y rhoddir sylw iddynt yn cynnwys helpu perchnogion a rheolwyr i gael hanfodion eu busnesau'n iawn, sicrhau profiad cadarnhaol i gwsmeriaid, sicrhau effeithiolrwydd gwefannau busnes, ystyried sut y gall Deallusrwydd Artiffisial helpu i sicrhau busnes, a datgloi potensial gwerthu.

Bydd trafodaeth gyda phanel sy'n cynnwys ystod o entrepreneuriaid sydd wedi tyfu eu busnesau yn llwyddiannus, stondinau cymorth busnes a masnach pwrpasol a chyfleoedd i rwydweithio. Mae'n darparu cyfle allweddol i fusnesau bach gysylltu â chyfoedion, archwilio partneriaethau busnes, a chael mynediad at wasanaethau cymorth hanfodol.

Dywedodd Rob Basini, Rheolwr Datblygu Ffederasiwn Busnesau Bach yn ne Cymru:

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cwblhau manylion y gynhadledd eleni, sydd â llu o siaradwyr mor wych. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi cael adborth cadarnhaol ynghylch ein cynadleddau, ac rydym yn siŵr y bydd y digwyddiad eleni eto yn rhoi budd i'r busnesau sy'n bresennol.

“Rwy'n argymell yn gryf fod pobl yn archebu lle'n gyflym - mae tipyn o fynd ar y tocynnau eisoes. Mawr yw ein dyled i'n partneriaid ar gyfer y digwyddiad – Llywodraeth Cymru, Bargen Ddinesig Bae Abertawe, y Weinyddiaeth Amddiffyn a Business News Wales  – y mae eu cefnogaeth yn golygu bod y Gynhadledd eleni yn rhad ac am ddim. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb i'r digwyddiad hanfodol hwn.”

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe:

"Rydym yn falch o noddi cynhadledd y Ffederasiwn Busnesau Bach yn Abertawe a sefyll ochr yn ochr â'r entrepreneuriaid a'r arloeswyr sy'n rhan ganolog o ysgogi ein heconomi. Mae cefnogi busnesau bach yn bwysig iawn i'r Fargen Ddinesig gan eu bod yn hanfodol wrth helpu ein rhanbarth i ffynnu, gan greu dyfodol mwy bywiog i ni i gyd."

Archebwch eich lle https://events.fsb.org.uk/en/8d2bI2X7/fsb-south-wales-small-business-conference-2025-3aJ8P2cID/overview