Dim ond wythnos sydd i fynd tan Gynhadledd flynyddol i Fusnesau Bach De Cymru sy'n cael ei baratoi gan Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB), ac a gynhelir yn Stadiwm Swansea.com ddydd Mercher 2 Medi 2026. Bargen Ddinesig Bae Abertawe fydd y prif noddwyr ynghyd â Llywodraeth Cymru a'r partner cyfryngau Newyddion Busnes Cymru.
Mae perchnogion busnesau bach ac entrepreneuriaid o bob rhan o dde Cymru yn cael eu gwahodd i'r digwyddiad hwn a fydd yn canolbwyntio ar y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu cwmnïau. Yn gonglfaen i'r calendr busnes, mae'r digwyddiad, sy'n cael ei gynnal trwy'r dydd, wedi gwerthu allan yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bydd unwaith eto yn cynnwys rhestr eithriadol o siaradwyr, gan ddarparu arweiniad pwerus, ymarferol i helpu busnesau bach i gyflawni twf cynaliadwy.
Bydd deallusrwydd artiffisial yn un o'r themâu allweddol yn y gynhadledd, gyda mynychwyr yn gallu dysgu mwy am ddefnyddio offer AI i wella cynhyrchiant ac arbed amser. Bydd y gynhadledd hefyd yn bwrw golwg ar ffyrdd y gall busnesau wella profiad y cwsmer, tueddiadau cyfredol mewn marchnata digidol a sut i drosi diddordeb yn werthiannau.
Mae noddi'r digwyddiad hwn yn gyfle i Fargen Ddinesig Bae Abertawe gryfhau ei hamlygrwydd yn y rhanbarth ac ymgysylltu â'r gymuned entrepreneuraidd yn ne Cymru. Mae hefyd yn atgyfnerthu ymrwymiad y Fargen Ddinesig i gefnogi twf ac arloesedd busnesau lleol, ac yn gweithredu fel llwyfan i arddangos cynnydd a'r cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau bach.
Dywedodd Rob Basini, Rheolwr Datblygu Ffederasiwn Busnesau Bach yn ne Cymru:
"Rydyn ni'n falch iawn o ddod â Chynhadledd Busnesau Bach De Cymru i Abertawe eto ym mis Medi, ar adeg pan mae llawer o gwmnïau bach yn chwilio am gymorth ymarferol a'r hyder i gymryd y cam nesaf.
"Mae'r agenda wedi'i lunio yn seiliedig ar y cyfleoedd a'r heriau gwirioneddol sy'n wynebu busnesau heddiw, o wneud gwell defnydd o AI a gwella profiadau cwsmeriaid, i oresgyn rhwystrau i dwf a gwella prosesau gwerthu.
"Yr un mor bwysig, bydd y gynhadledd yn darparu cyfle gwerthfawr i fusnesau o bob rhan o'r rhanbarth ddod at ei gilydd, cyfnewid syniadau, meithrin perthnasoedd newydd a gadael gyda syniadau ymarferol i'w rhoi ar waith."
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe:
"Rydyn ni'n falch o noddi cynhadledd y Ffederasiwn Busnesau Bach yn Abertawe am yr eildro a sefyll ochr yn ochr â'r entrepreneuriaid a'r arloeswyr sy'n rhan ganolog o ysgogi ein heconomi. Mae cefnogi busnesau bach yn bwysig iawn i'r Fargen Ddinesig gan eu bod yn hanfodol wrth helpu ein rhanbarth i ffynnu, gan greu dyfodol mwy bywiog i ni i gyd."
Mae tocynnau ar gael, archebwch eich lle Overview ⋮ FSB South Wales Small Business Conference ⋮ The Federation of Small Businesses ⋮ Events