Mae dros dri chwarter miliwn o bobl wedi ymweld ag Arena Swansea Building Society ers iddi agor dair blynedd yn ôl.

Mae nifer enfawr o ddigwyddiadau y bu'n rhaid prynu tocynnau ar eu cyfer, cynadleddau, arddangosfeydd a seremonïau graddio prifysgolion wedi'u cynnal yn yr Arena a agorodd ym mis Mawrth 2022.

Mae'r sêr sydd wedi ymddangos ar y llwyfan yno'n cynnwys Johnny Depp ac Alice Cooper gyda The Hollywood Vampires, Gladys Knight a Michael McIntyre.

Mae digwyddiadau sydd ar ddod yno'n cynnwys The Manic Street Preachers, Ocean Colour Scene a Greg Davies.

Mae ffigurau ymwelwyr yn fwy na'r rhagamcaniadau cychwynnol, ynghyd â nifer y tocynnau a werthwyd, ac mae dros 80% o bobl ar gyfartaledd yn mynd i gyngherddau.

Mae'r arena a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe ac sy'n cael ei hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn cael ei chynnal gan ATG Entertainment Group.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Nodwyd sawl blwyddyn yn ôl y byddai arena'n opsiwn rhagorol i Abertawe er mwyn hybu gwaith adfywio yma ac ategu cyfleusterau fel Theatr y Grand a Neuadd Brangwyn.

"Dengys y ffigurau hyn fod ein penderfyniad i adeiladu'r lleoliad yn iawn a bod yr arena'n parhau i fynd o nerth i nerth.

"Mae'n un nodwedd o raglen adfywio sy'n werth dros £1bn sy'n parhau yn Abertawe i greu un o'r cyrchfannau gorau yn y DU i fyw, gweithio, astudio, mwynhau, buddsoddi ynddo ac ymweld ag ef.

"Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad i hybu ein heconomi leol, creu swyddi i bobl leol a thrawsnewid canol ein dinas er budd preswylwyr lleol a busnesau lleol.

Meddai Lara Caple-Harding, Rheolwr Cyffredinol Arena Swansea Building Society, "Yn ystod ein tair blynedd gyntaf, rydym wedi profi addasrwydd ein lleoliad drwy groesawu cyngherddau roc, arddangosfeydd, seremonïau graddio, sioeau cerdd, twrnameintiau snwcer, cynyrchiadau teledu a mwy drwy ein drysau.

"Mae cydweithio â Chyngor Abertawe, lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad, partneriaid lletygarwch a sefydliadau lleol ar draws y rhanbarth wedi caniatáu i ni gefnogi ymdrechion eithriadol y ddinas i roi De-orllewin Cymru ar y map adloniant a digwyddiadau.

"Ein nod ers agor fu dod ag amrywiaeth o adloniant i'r rhanbarth, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i chwarae rhan yn nyfodol cyffrous y ddinas yn y blynyddoedd i ddod. "

Bydd cyngherddau a digwyddiadau eraill a gynhelir yn Arena Swansea Building Society yn y misoedd sy'n dod yn cynnwys Rob Beckett, Level 42 a Wet Wet Wet gyda Heather Small.

www.swansea-arena.co.uk