Mae Ed Tomp, sef Cadeirydd Bwrdd Strategaeth Economaidd y Fargen Ddinesig, yn dweud y gallai'r Fargen Ddinesig fod yn gatalydd ar gyfer buddsoddiad pellach yn y dyfodol a fydd yn helpu i gadw talent ifanc Dinas-ranbarth Bae Abertawe.
Mae Mr Tomp, sy'n Is-lywydd a Rheolwr Cyffredinol Valero UK yn Sir Benfro, hefyd yn credu y gall y Fargen Ddinesig ddatblygu economi'r rhanbarth i fod yn fwy cyfartal â mannau mwy cyfoethog o'r DU.
Mae'r Bwrdd Strategaeth Economaidd yn cynnwys arbenigwyr o'r sector preifat ym meysydd megis busnes, cyllid, ynni, gwyddorau bywyd, tai a gweithgynrychu, ac mae'n darparu arweiniad arbenigol i Gyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig, sy'n gwneud penderfyniadau.
Mae Mr Tomp, sy'n meddu ar radd mewn peirianneg gemegol o Brifysgol De Califfornia yn Los Angeles, yn dod o Phoenix, Arizona yn wreiddiol. Mae ei yrfa yn y diwydiant olew wedi cynnwys swyddi ym Mississippi, Tecsas, Hawäi, Califfornia ac Awstralia cyn iddo gyrraedd Cymru yn 2007.
"Rwy'n dwlu ar yr ardal hon - mae fy nheulu a finnau wedi byw yma ers 12 mlynedd erbyn hyn," dywedodd Mr Tomp, sy'n byw ger Arberth. "Mae gennyf ferch 18 oed sydd wedi'i magu yma ers oedran ifanc, ond mae llawer o'i ffrindiau a'i chyfeillion yn teimlo bod rhaid iddynt adael de-orllewin Cymru i ddilyn eu breuddwydion.
"Mae'n rhaid i ni greu amgylchedd ar gyfer y genhedlaeth honno ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, lle gallant aros yn yr ardal lle cawsant eu magu - os ydynt yn dewis - a dilyn eu breuddwydion heb orfod gadael. Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn gyfle i wneud hynny.
"Mae Dinas-ranbarth Bae Abertawe wedi cael ei thrawsnewid yn ystod ei hanes - sy'n cynnwys adegau diwydiannol, a chael presenoldeb ynni fawr yn y gorffennol ar yr un pryd. Gall y Fargen Ddinesig ddod â diwydiant a thwf i'r ardal yn y dyfodol.
"Yn fy niwydiant yn benodol - sef y diwydiant olew - roedd gennym nifer o burfeydd olew yn Aberdaugleddau yn hanesyddol. Dim ond un burfa sydd yno erbyn hyn, a Valero sy'n berchen arni.
"Mae hyn yn adlewyrchu'n stori'r Ddinas-ranbarth yn ei chyfanrwydd, felly sut ydym yn creu ton newydd o ddatblygiad economaidd i alluogi cenedlaethau'r dyfodol i fyw a gwireddu eu dyheadau yma?
"Rwy'n credu ei fod yn fater o greu'r amgylchedd iawn ar gyfer buddsoddiad mewnol a thwf diwydiannau newydd, yn ogystal â chefnogi a grymuso busnesau presennol yn y rhanbarth.
"Mae'r rhanbarth wedi bod y tu ôl i ranbarthau eraill yn y DU, ac nid oes rheswm dros hynny mewn gwirionedd. Mae pobl ledled Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn dalentog iawn ac yn gymwys iawn."
Mae'r Fargen Ddinesig yn cael ei harwain gan y pedwar cyngor rhanbarthol, dau fwrdd iechyd rhanbarthol, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae'n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus a'r sector preifat er mwyn ariannu nifer o brosiectau mawr ledled Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro. Mae themâu'r Fargen Ddinesig yn cynnwys ynni a gwelliannau mawr o ran cysylltiad digidol.
Dywedodd Mr Tomp: "Mae ynni adnewyddadwy'n gyfle enfawr yma, sy'n cael ei adlewyrchu ym mhrosiectau'r Fargen Ddinesig megis Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer, a fydd yn cyflwyno cartrefi sy'n hynod effeithlon o ran ynni ar draws y rhanbarth.
"Yn Sir Benfro, mae'n canolbwyntio ar ynni tonnau, ynni gwynt ac ynni'r môr, ond mae yna elfennau allweddol eraill o'r Fargen Ddinesig hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys gwyddorau bywyd, y cyfle i atgyfnerthu a thyfu'r diwydiant dur, ac elfen ddigidol sy'n argoeli'n dda ar gyfer de-orllewin Cymru yn ei chyfanrwydd."
Valero yw'r purwr olew annibynnol mwyaf yn y byd. Yn ogystal â chanolbwyntio ar danwyddau traddodiadol, mae'r cwmni hefyd yn cynhyrchu diesel adnewyddadwy ac ethanol adnewyddadwy, ac yn berchen ar ffermydd gwynt.
Mae'n cyflogi tua 550 o staff - a tua'r un nifer o gontractwyr - ac mae Mr Tomp yn rheoli purfa Valero ar arfordir Sir Benfro.
Mae'n dweud y bydd y sgiliau y mae wedi'i ddysgu yn helpu yn ei rôl fel Cadeirydd Bwrdd Strategaeth Economaidd y Fargen Ddinesig.
Dywedodd Mr Tomp: "Hoffwn gredu fy mod yn gallu dod â phartïon gwahanol at ei gilydd, gydag arbenigedd penodol yn y diwydiant ynni a chynnal gweithrediadau mawr.
"Ond mae'r Bwrdd Strategaeth Economaidd yn grŵp amrywiol o bobl sy'n meddu ar lawer o gymwysterau da. Mae'r bwrdd mewn sefyllfa dda i roi'r cyngor a'r argymhellion sydd eu hangen ar Gyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig, felly rwy'n falch iawn o'i aelodau.
Mae aelodau eraill o'r Bwrdd Strategaeth Economaidd o'r sector preifat yn cynnwys Amanda Davies - Prif Weithredwr Grŵp Pobl, Nigel Short - Cadeirydd y Scarlets, James Davies - Cadeirydd Gweithredol Diwydiant Cymru, Chris Foxall - Cyfarwyddwr Ariannol Riversimple, a Simon Holt - sydd wedi ymddeol fel Oncolegydd Llawfeddygol Ymgynghorol.