Mae’r gwaith adeiladu bellach wedi dechrau ar Hyb Diwydiannol Pontio o Garbon De Cymru, a elwir hefyd yn SWITCH. Dyma gyfleuster ymchwil gwerth £28 miliwn a gynlluniwyd y gyflymu’r gwaith o ddatgarboneiddio’r sector dur a metelau. Pan fydd yn gweithredu’n llawn, disgwylir i hyd at 95 o staff gael eu lleoli yno.
Mae’r prosiect, a arweinir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, yn cael ei ddarparu gan Morgan Sindall Construction, a benodwyd i ddylunio ac adeiladu’r ganolfan, sy’n rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe a Chronfa Bontio TATA, ar safle tir llwyd ar lan Harbwr Port Talbot.
Dyfarnwyd £8.2m i SWITCH allan o Gronfa Bontio Tata, a ddarperir gan Fwrdd Pontio Llywodraeth Prydain / Tata Steel / Port Talbot, gyda £20m yn dod yn sgil Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Lleolir y cyfleuster yn ardal Glan yr Harbwr, sy’n rhan o ardal arloesi ar ei phrifiant, ac sy’n elwa o gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol gyda’r M4 a rheilffordd Parcffordd Port Talbot.
Bydd y cyfleuster, a elwir yn SWITCH Glan yr Harbwr, yn hyb ymchwil mynediad agored a adeiladwyd i ateb y pwrpas, er mwyn cefnogi arloesi ar draws sectorau academaidd, diwydiant a llywodraeth. Bydd ei ffocws yn helpu sectorau fel dur a metelau gyda’u prosesau datgarboneiddio, gan helpu i greu modelau economi cylchol a chreu deunyddiau uwch ar gyfer cymdeithas sero net.
Ar y tu fewn, bydd yr adeilad yn cynnwys ardaloedd ar gyfer gweithdai ac asio, parthau profi mecanyddol arbenigol, labordai a swyddfeydd modern ar gyfer y grŵp staffio.
Bydd Morgan Sindall Construction, a gyflawnodd Ganolfan Dechnoleg y Bae yn ddiweddar, i lawer o glod, yn cynnwys technolegau ynni cynaliadwy fel rhan o gynllun SWITCH Glan yr Harbwr.
Mae hyn yn cynnwys paneli solar i ddarparu ynni glân ar draws y safle cyfan a mesurau i ddiddymu’r defnydd o danwydd ffosil yn ystod y gwaith adeiladu, gan gefnogi strategaeth Ddatgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy (DARE) y cyngor.
Mae’r prosiect yn rhan o raglen Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel Bargen Ddinesig Bae Abertawe, ac mae’n cynrychioli carreg filltir o bwys ar daith y rhanbarth i bontio i economi gwyrdd.
Yn ôl y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot:
“Rydyn ni wrth ein bodd i weld y gwaith yn dechrau ar safle SWITCH, wrth i’r Cyngor barhau i ganolbwyntio ar greu amgylcheddau gweithio cynaliadwy a darparu swyddi newydd a chyfleoedd ar gyfer ein cymuned.
“Edrychwn ymlaen at weld y datblygiad arloesol hwn yn gwneud cynnydd, a hoffem ddiolch i’n partneriaid ym Mhrifysgol Abertawe am eu cefnogaeth wrth ddod â’r prosiect hwn i’r fei. Hoffem estyn ein diolchgarwch hefyd i Morgan Sindall am eu gwaith rhagorol, ac i Lywodraeth Prydain am eu cefnogaeth barhaus.”
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens:
“Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi dros £100 miliwn ym Mhort Talbot er mwyn helpu i ddatblygu diwydiannau’r dyfodol fel creu dur glân, cynhyrchu ynni gwynt ar y môr ac ymchwil a datblygu.
“Mae cynnydd prosiect SWITCH yn gam ymlaen o ran yr amcanion hyn wrth i ni weithio i greu swyddi a thwf yn y dref ac ar draws Cymru gyfan.”
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi, Ynni a Chynllunio yn Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans:
“Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe’n parhau i gyflawni er budd busnesau a phreswylwyr ar draws y rhanbarth, gyda SWITCH Glan yr Harbwr yn cynrychioli cam pwysig ymlaen o ran cefnogi symud Cymru i gyfeiriad dyfodol carbon isel.
“Bydd y ganolfan ymchwil newydd hon yn darparu swyddi o ansawdd uchel i’r gymuned, ac yn cryfhau safle’r rhanbarth mewn gweithgynhyrchu uwch ac ynni glân.
“Gan ddod â diwydiant, y byd academaidd a llywodraeth ynghyd, bydd y cyfleuster hefyd yn cefnogi datblygu technolegau a sgiliau newydd, ac yn ein symud gam yn nes eto at ein hagenda sero net.”
Yr Athro Helen Griffiths Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ac Arloesi, Prifysgol Abertawe:
"Pwrpas SWITCH Glan yr Harbwr yw darparu atebion ymarferol sydd eu hangen ar gyfer datgarboneiddio diwydiant. Bydd ein harbenigedd ymchwil yn helpu’r sector ddur a metelau i ddatblygu’r technolegau a’r prosesau newydd fydd eu hangen i bontio i sero net, gan gryfhau’r gadwyn gyflenwi ranbarthol a sicrhau safle De Cymru wrth wraidd yr economi gwyrdd.”