Ymunodd Ysgol Gatholig Sant Ioan Llwyd â Bouygues UK a Chyngor Sir Gâr ar gyfer y digwyddiad Nadoligaidd
Daeth y Nadolig yn gynnar yn natblygiad arloesol Pentre Awel yn Llanelli wrth i ysgol leol a Gwasanaethau Cerdd Sir Gaerfyrddin berfformio carolau i westeion er mwyn lledaenu ychydig o hwyl yr ŵyl cyn y gwyliau.
Ymysg y gwesteion yr oedd aelodau o Gyngor Sir Gâr, y Cynghorydd Handel Davies - Cadeirydd y Cyngor, a Chynghorwyr lleol Glanymôr, sef y Cynghorydd Louvain Roberts a’r Cynghorydd Sean Rees, yn ogystal ag aelodau o dîm Bouygues UK a phartneriaid y gadwyn gyflenwi leol.
Cawsant gyfle i fwynhau’r carolau ‘Hark, The Herald Angels Sing’, ‘Silent Night’ ac ‘O, Come All Ye Faithful’ yn cael eu perfformio yn atriwm Pentre Awel, yn ogystal â danteithion Nadoligaidd, a rhoddwyd yr holl arian a gafodd ei godi i LATCH, yr elusen ganser i blant yng Nghymru.
Meddai Nina Williams, cynghorydd cymdeithasol Bouygues UK ar gyfer Pentre Awel:
"Mae gwerth cymdeithasol yn wirioneddol bwysig i ni yn Bouygues UK, a pha ffordd well o ddathlu ein hagwedd gydweithredol gyda’n partneriaid a’r gymuned na chanu carolau poblogaidd? Ar ran holl dîm prosiect Pentre Awel, dymunwn Nadolig Llawen iawn i bawb."
Ychwanegodd y Cynghorydd Handel Davies, Cadeirydd Cyngor Sir Gâr, a oedd yn bresennol yn y digwyddiad:
"Diolch i Bouygues UK am drefnu’r digwyddiad y prynhawn ‘ma. Mwynheais i’r perfformiadau’n fawr iawn, a hefyd y cyfle i godi arian i LATCH, sef elusen ganser plant Cymru, a fydd yn cyfrannu at gefnogi plant a’u teuluoedd trwy driniaeth."
Mae Pentre Awel yn gynllun gwirioneddol gydweithredol sy’n cael ei ddarparu ar gyfer y gymuned leol gan Gyngor Sir Gâr mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgolion a cholegau, ac mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (£40miliwn). Ei nod yw creu tua 1,800 o swyddi dros 15 mlynedd a rhoi hwb o fwy na £450m i’r economi leol.
Bydd y datblygiad yn cynnwys canolfan hamdden a phwll hydrotherapi newydd o'r radd flaenaf, ynghyd â gofod addysg, ymchwil a datblygu busnes; canolfan ymchwil a darpariaeth glinigol, a chanolfan sgiliau lles. Y tu allan, bydd gan Bentre Awel fannau cyhoeddus yn yr awyr agored wedi'u tirlunio ar gyfer gweithgareddau hamdden, cerdded a beicio.
I gael rhagor o wybodaeth neu i roi cyfraniad i LATCH Elusen Canser Plant Cymru, ewch i’r wefan.