Mae trigolion Dale, cymuned wledig fach ar arfordir Sir Benfro, wedi dioddef cysylltedd rhyngrwyd gwael ers tro byd, gyda fawr ddim gallu i ddefnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer gwaith, adloniant na chyfathrebu. Wrth i fwy o wasanaethau a thasgau o ddydd i ddydd fynd yn ddigidol, roedd cael mynediad cyfyngedig i’r rhyngrwyd yn cael effaith andwyol ar drigolion.
Fodd bynnag, ar ôl cael gwybod gan hyrwyddwyr digidol Cyngor Sir Penfro am brosiect a ariannwyd gan Lywodraeth y DU, mae hyn wedi newid ac mae Dale ar y cyfan bellach wedi’i gysylltu â band eang a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid sy’n gwasanaethu’r pentref i gyd.
Mae’r Cynllun Talebau Band Eang Gigadid yn rhan o raglen Prosiect Gigadid Llywodraeth y DU, sy’n helpu cymunedau anodd eu cyrraedd i wneud gwaith uwchraddio ar eu cysylltiad band eang. Gall cartrefi a busnesau cymwys wneud cais am hyd at £4,500 i dalu costau cysylltiad a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid. Gyda’r cynllun talebau, mae trigolion a busnesau mewn ardaloedd cymwys wedi gallu gwneud cais am gymorth ariannol i dalu costau gosod band eang gigadid.
Dywedodd Kevin Rogers, un o drigolion Dale: “Yr anhawster i mi, oedd yn gweithio mewn amgylchedd technolegol, oedd fod y cysylltiad band eang yn eithaf cyfyngedig pan symudais yn ôl i Dale - methu symud ffeiliau mawr, ddim yn gallu gwneud galwadau fideo-gynadledda - roedden ni’n dibynnu ar linellau ffôn copr hen ffasiwn. Roedd y cynllun band eang gigadid fel bwi achub wedi’i daflu tuag atom wrth i ni foddi yn lôn araf y rhyngrwyd.
Oherwydd y cynllun, mae ein bywydau wedi gwella ac mae’n fudd i’n cymuned.”