Mae Canolfan Dechnoleg y Bae, sef adeilad gwerth £7.9m Cyngor Castell-nedd Port Talbot, wedi ennill gwobr Prosiect Eiddo Masnachol y Flwyddyn yng ngwobrau mawreddog Sefydliad Diwydiant Adeiladu Prydain (BCI).
Mae'r gwobrau blynyddol, a gaiff eu cyhoeddi yng Ngwesty'r Grosvenor yn Llundain a'u beirniadu gan arbenigwyr yn y diwydiant, yn cydnabod cyflawniad rhagorol ym maes adeiladu, gan ystyried gwaith dylunio pensaernïol a pheirianegol, y broses adeiladu, cyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb, a boddhad cleientiaid.
Wrth sôn am yr adeilad effeithlon o ran ynni, sydd ym Mharc Ynni Baglan Castell-nedd Port Talbot, dywedodd y beirniaid: “Mae Canolfan Dechnoleg y Bae yn profi'r cysyniad o ‘adeilad fel gorsaf bŵer’ drwy gynhyrchu mwy o ynni nag y mae'n ei ddefnyddio.
“Gan dargedu meddianwyr sy'n gwmnïau technolegol, mae'r newid sylweddol hwn mewn gwaith adeiladu yn croesawu nodweddion goddefol, yn integreiddio celloedd ffotofoltäig mewn ffasadau ac wedi cyflawni arbedion effeithlonrwydd yn y broses adeiladu drwy ddefnyddio systemau rhannu data a modelu yn y cwmwl.”
Morgan Sindall oedd prif gontractwr y cyngor ar y prosiect, ac roedd yn gweithio gyda Grŵp IBI (pensaernïaeth), Hydrock (gwaith dylunio peirianegol) a The Urbanists (gwasanaethau pensaernïaeth tirlunio). Ymhlith y cyfranwyr eraill roedd FP Hurley & Sons, CMBE Electrical a Central Cladding.
Mae gan yr adeilad, a gomisiynwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ac sydd yn un o'r prif leoliadau busnes a diwydiant yng Nghymru, ddau denant yn barod, ac mae disgwyl i nifer o rai eraill ymuno.
Y wobr hon gan y BCI yw'r drydedd wobr i Ganolfan Dechnoleg y Bae, y cwblhawyd y gwaith o'i hadeiladu yn gynharach eleni, ei hennill. Yn flaenorol, enillodd y Wobr Sero Net yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru (CEW) a'r Wobr Gynaliadwyedd yng Ngwobrau Eiddo Insider Cymru.
Dywedodd y Cyngh. Jeremy Hurley, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Llesiant: “Rydym yn falch dros ben bod ein hadeilad newydd effeithlon o ran ynni ym Mharc Ynni Baglan wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol.
“Hoffem ddiolch i'r contractwyr a oedd yn rhan o'r gwaith, ac mae hyn yn helpu i ddangos bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cydnabod y ffaith bod newid hinsawdd yn fater brys.
“Mae cysylltiad agos rhwng dyfodiad yr adeilad effeithlon o ran ynni hwn, sydd wedi ennill gwobrau, a'n strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy (DARE).”
Dywedodd Geraint Hopkins, sy'n un o Gyfarwyddwyr y peirianwyr ymgynghorol McCann and Partners, sef un o'r ddau denant newydd yng Nghanolfan Dechnoleg y Bae: “Llongyfarchiadau i Gyngor Sir Castell-nedd Port Talbot a phawb arall dan sylw ar ennill gwobr Eiddo Masnachol y Flwyddyn.
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddechrau ar y bennod newydd hon mewn adeilad sy'n hyrwyddo ynni isel a dylunio cynaliadwy. Mae'r newid hwn yn cyfoethogi ein gweledigaeth a'n hymrwymiad i ddatgarboneiddio ac effeithlonrwydd ynni, gan ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf er mwyn i'n tîm barhau i dyfu ar yr un pryd.”
Mae Canolfan Dechnoleg y Bae wedi’i hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU drwy’r Rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel gwerth £58.7 miliwn, sy’n rhan o raglen buddsoddi rhanbarthol Bargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £1.8bn.