Mae busnesau ledled de-orllewin Cymru yn cael eu hannog i fanteisio ar y cyfle anhygoel hwn wrth i'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol gyhoeddi menter cyllid fawr sy'n ceisio hybu sgiliau'r gweithlu a chefnogi newidiadau gyrfa yn y sectorau sy'n tyfu gyflymaf yn y rhanbarth. 

Yn sgil cael cyllid gan Raglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, bydd y pedwar coleg ar draws y rhanbarth - Coleg Gŵyr, Coleg Sir Benfro, Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot a Choleg Sir Gaer - yn cyflwyno rhaglen 18 mis o gyrsiau hyfforddi a ariennir yn rhannol, sydd ar gael i unigolion sy'n dymuno gwella eu sgiliau neu ddechrau gyrfa newydd. Mae'r cyrsiau hyn yn amrywio o gymwysterau Lefel 3 i Lefel 5 ac maen nhw wedi'u cynllunio i helpu cyflogwyr i wella sgiliau eu timau, ailhyfforddi unigolion, a gwella perfformiad cyffredinol.

Mae de-orllewin Cymru yn gweld twf mewn sectorau fel ynni adnewyddadwy, gweithgynhyrchu, adeiladu, technolegau digidol, ac iechyd a gofal cymdeithasol ac wrth i'r diwydiannau hyn dyfu, mae'r galw am weithwyr medrus yn cynyddu. Nod menter y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yw pontio'r bwlch hwn drwy ddarparu'r hyfforddiant sydd ei angen ar fusnesau lleol i aros yn gystadleuol.

Mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn galw ar gyflogwyr ledled y rhanbarth i fanteisio'n llawn ar y fenter hon. P'un a ydych chi'n awyddus i roi sgiliau newydd i'ch staff neu addasu i newidiadau technolegol, mae'r rhaglen hon yn cynnig ateb â chanlyniadau effaith uchel.