Mae'r prosiect Seilwaith Digidol gwerth £55 miliwn ymhlith y rhai sydd i fod i gael eu hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe a fydd gyda'i gilydd yn helpu i roi hwb i adferiad yr economi rhanbarthol yn dilyn Covid-19.
Dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, nod y prosiect yw rhoi budd i drigolion a busnesau ym mhob rhan o'r Dinas-Ranbarth, sydd hefyd yn cynnwys Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.
Mae'r prosiect Seilwaith Digidol - yr amcangyfrifir ei fod werth £318 miliwn i'r economi ranbarthol yn y 15 mlynedd nesaf - wedi'i rannu'n dair thema:
- Lleoedd sydd â seilwaith digidol: Sicrhau bod gan drefi, dinasoedd a pharthau datblygu'r rhanbarth fynediad at seilwaith digidol ffeibr llawn o'r radd flaenaf
- Gwledig: Sicrhau cydraddoldeb o ran mynediad i wasanaethau band eang ledled y rhanbarth
- Rhwydweithiau Diwifr y Genhedlaeth Nesaf: Sicrhau bod y rhanbarth ar flaen y gad o ran buddsoddi ac arloesi 5G a'r Rhyngrwyd Pethau
Bydd achos busnes y prosiect – sydd bellach wedi'i gymeradwyo gan y pedwar awdurdod lleol rhanbarthol - yn cael ei ystyried yn fuan gan Gyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe i'w gymeradwyo. Yn amodol ar gael sêl bendith, caiff ei gyflwyno wedyn i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo'n derfynol.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Ni ellir pwysleisio digon pa mor bwysig yw seilwaith digidol o ansawdd uchel, ac yn ystod argyfwng Covid-19 sy’n parhau o hyd, mae proffil a pherthnasedd y seilwaith yn fwy amlwg nag erioed.
“Bydd seilwaith digidol o ansawdd uchel ledled De-orllewin Cymru yn rhoi’r sylfeini digidol sydd eu hangen ar fusnesau rhanbarthol i ffynnu, a bydd hefyd yn denu mewnfuddsoddiad a swyddi â chyflog da.
“Bydd preswylwyr hefyd yn elwa ar y prosiect hwn, a nod yr elfen weledig fydd darparu gwasanaethau band eang llawer gwell i gymunedau sy'n cael eu tan-wasanaethu.
“Mae cysylltedd digidol bellach yn sail ac yn cefnogi rhan fwyaf o elfennau sy'n ymwneud â'n heconomi - o ofal iechyd a gweithgynhyrchu i ynni a'r diwydiannau creadigol. Bydd y prosiect hwn yn ysgogi busnesau lleol ac egin-fusnesau arloesol, gan wella'r modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus am gostau is.
“Dengys ymchwil bod ansawdd cysylltedd digidol mewn sawl rhan o Gymru ar ei hôl hi i'w gymharu â gweddill y DU, felly bydd y prosiect Seilwaith Digidol yn helpu i gau'r bwlch hwnnw wrth amddiffyn ein heconomi ar gyfer y dyfodol am ddegawdau i ddod.
“Mae llawer iawn o waith wedi mynd rhagddo y tu ôl i'r llenni o ran achos busnes y prosiect ers misoedd lawer, felly mae'n rhoi boddhad mawr i mi ein bod bellach mewn cyfnod lle rydym yn ceisio cymeradwyaeth gan awdurdodau lleol rhanbarthol cyn i'r prosiect gael ei ystyried yng Nghyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig."
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: “Mae creu seilwaith digidol sy’n rhwymo ein cymunedau gyda’i gilydd ac yn sail i’n cynlluniau ar gyfer trawsnewidiad economaidd yn hanfodol i lwyddiant ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer dyfodol y rhanbarth.
“Mae’r pandemig Covid wedi amlygu pwysigrwydd band eang cyflym a dibynadwy a chysylltedd ffôn symudol. Heb y pethau hynny, ni fyddai llawer o fusnesau a gwasanaethau wedi gallu parhau.
“Mae’n hanfodol yn ne-orllewin Cymru fod gennym y rhwydweithiau cyfathrebu mwyaf datblygedig, cynhwysfawr a chystadleuol os ydym am gystadlu â gweddill y byd pan fydd y pandemig Covid wedi dod i ben.”
Mae'r prosiect Seilwaith Digidol yn ceisio buddsoddiad gwerth £25 miliwn o ran y Fargen Ddinesig, gyda'r cyfraniadau cyllid sy'n weddill yn cael eu rhannu rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Amcangyfrifir buddsoddiad mewnol o £30 miliwn yn ystod cyfnod o bum mlynedd o ran cyflawni'r prosiect.
Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.