Mae rhaglen Sgiliau a Thalentau gwerth £30 miliwn ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi'i chymeradwyo gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Bydd y rhaglen ranbarthol yn rhoi cyfleoedd i filoedd o bobl gael cyfleoedd sgiliau a bydd yn helpu busnesau i dyfu drwy ddatblygu gweithlu talentog ar draws Rhanbarth Bae Abertawe gan ganolbwyntio ar ddiwydiannau sydd â galw mawr am weithwyr.
Bydd cyfleoedd yn cyd-fynd ag ardaloedd twf a chryfderau rhanbarthol fel y sectorau digidol, adeiladu, ynni, iechyd a llesiant a gweithgynhyrchu clyfar a bydd cyfleoedd i uwchsgilio'r gweithlu presennol yn ogystal â pharatoi'r genhedlaeth nesaf ar gyfer swyddi yn y dyfodol yn yr ardal leol.
Dros y degawd nesaf, nod y rhaglen Sgiliau a Thalentau yw darparu 2,200 o gyfleoedd sgiliau a datblygu ychwanegol drwy helpu tua 14,000 o bobl i uwchsgilio. Yn ogystal, bydd o leiaf 3000 o gyfleoedd prentisiaeth newydd yn cael eu creu. Bydd y rhaglen hefyd yn creu canolfannau rhagoriaeth yn y sectorau ffocws i ddatblygu'r rhanbarth fel yr "ardal gorau" i ddysgu'r sgil.
Mewn partneriaeth â darparwyr hyfforddiant ar draws y rhanbarth gan gynnwys Awdurdodau Lleol, Ysgolion, Colegau, Prifysgolion a busnesau, bydd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn arwain y rhaglen i nodi bylchau sgiliau mewn perthynas ag anghenion y diwydiant lleol, a bydd atebion addysg a hyfforddiant yn cael eu rhoi ar waith i fodloni'r gofynion hyn, gyda'r nod o greu llwybr clir o addysg ysgol hyd at gyflogaeth. Bydd buddsoddiad yn cael ei wneud mewn fframweithiau cyrsiau i sicrhau eu bod yn cyfateb ag anghenion hyfforddi ar gyfer cyfleoedd gwaith yn y dyfodol.
Bydd y gofynion sgiliau a'r hyfforddiant hefyd yn cyd-fynd yn agos â phrosiectau eraill y Fargen Ddinesig sydd wrthi'n cael eu caffael neu yn y cam cyflawni i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd gwaith i bobl ledled Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Sir Abertawe, a Chastell-nedd Port Talbot.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin "Bydd y rhaglen Sgiliau a Thalentau yn sylfaen i'r wyth prosiect a rhaglen arall ar draws portffolio'r Fargen Ddinesig gyfan drwy fapio'r bylchau sgiliau a dadansoddi anghenion hyfforddi prosiectau'r Fargen Ddinesig. Bydd nodi'r bylchau sgiliau ar draws y pum prif thema - adeiladu, digidol, ynni, iechyd a llesiant a gweithgynhyrchu clyfar – yn ein helpu i lunio a darparu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.
“Gan weithio ar y cyd â rhanddeiliaid a phartneriaid, byddwn yn darparu'r hyfforddiant a'r cyfleoedd i uwchsgilio sydd eu hangen, yn enwedig gydag ysgolion ar draws y rhanbarth i dynnu sylw at gyfleoedd a datblygu llwybrau clir ar gyfer ein pobl ifanc fel y gallant wneud y dewisiadau cywir ar gyfer eu dyfodol. Byddwn hefyd yn sefydlu Canolfannau Rhagoriaeth a fydd yn creu gwaddol ar gyfer y rhaglen ac yn sefydlu'r rhanbarth fel y lle gorau i ddysgu sgiliau sector penodol.
“Rhan bwysicaf y rhaglen yw'r cyfleoedd y bydd yn eu cynnig i fyfyrwyr, gweithwyr a chyflogwyr dyfu a bod yn rhan o'n heconomi ranbarthol. Bydd yn cefnogi datblygiad unigolion drwy ddysgu sgiliau newydd, prentisiaethau, fframweithiau cyrsiau ac yn darparu llwybrau gyrfa o addysg ysgol, i addysg bellach ac uwch ac i gael cyflogaeth."
Ychwanegodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, "Mae'r gymeradwyaeth hon yn golygu bod wyth o naw prosiect a rhaglen y Fargen Ddinesig bellach wedi'u cymeradwyo er budd trigolion a busnesau ledled y Ddinas-ranbarth.
“Mae'r rhaglen sgiliau a thalent yn nodwedd allweddol o'r buddsoddiad mawr gan y bydd yn rhoi llwybrau ar waith i bobl leol gael mynediad at filoedd o swyddi sy'n talu'n dda mewn sectorau fel gwyddorau bywyd, ynni adnewyddadwy ac arloesedd digidol.
“Mae hyn yn bwysig gan y bydd yn rhoi hwb i ffyniant rhanbarthol, wrth annog mwy o bobl ifanc o'n rhanbarth i ddilyn gyrfaoedd yma yn Ne-orllewin Cymru yn hytrach na symud i rywle arall.
“Mae llawer o brosiectau sy'n cael eu hariannu'n rhannol gan y Fargen Ddinesig hefyd ar waith, a fydd yn helpu i gyflymu adferiad economaidd ein rhanbarth o'r pandemig.”
Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, "Mewn tirwedd economaidd sy'n newid yn gyflym, mae'n hanfodol ein bod yn darparu cyfleoedd o ansawdd uchel i weithwyr yng Nghymru ennill y sgiliau a'r profiadau sydd eu hangen arnynt ar gyfer swyddi heddiw a heriau yfory. Bydd hyn yn allweddol i helpu Cymru i ddychwelyd at lefelau twf economaidd y gwnaethom eu mwynhau cyn y pandemig coronafeirws.
"Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhaglen Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a fydd yn helpu i greu miloedd o gyfleoedd i bobl ledled De-orllewin Cymru i uwchsgilio ac ailhyfforddi.
“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i wneud popeth posibl i roi hwb i adferiad cryf yng Nghymru yn seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol.”
Ychwanegodd David TC Davies, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, "Rwy'n falch iawn o gymeradwyo'r buddsoddiad hwn gwerth miliynau o bunnoedd yn sgiliau a thalent pobl yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe. Mae Llywodraeth y DU yn helpu i hyfforddi a chadw talent leol i weithio yn y swyddi medrus sy'n talu'n dda y mae'r Fargen Ddinesig hon yn eu creu. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn newyddion arbennig o wych i bobl ifanc, sy'n gallu edrych ymlaen at fwy o gyfleoedd yn y dyfodol”