Mae pedwar llawr uwchben lefel y stryd wedi cael eu codi bellach wrth i waith adeiladu barhau ar ddatblygiad mawr newydd yng nghanol dinas Abertawe, 71/72 Ffordd y Brenin sy'n rhan o'n rhaglen Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau.
Bydd y datblygiad swyddfeydd ar 71/72 Ffordd y Brenin, y disgwylir iddo gael ei gwblhau yn gynnar yn 2024, yn darparu lle i 600 o weithwyr mewn sectorau fel y rhai technegol a digidol pan fydd yn weithredol.
Mae'n gynllun a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe, a'r prif gontractwyr ar gyfer yr adeilad sy'n cael ei godi ar hen safle clwb nos Oceana yw Bouygues UK.
Bydd yr adeilad yn cynnwys mannau cyhoeddus mewnol ac allanol unigryw gyda derbynfa, balconïau, teras gwyrdd ar y to, atria, ardaloedd dynodedig ar gyfer digwyddiadau, mannau cyfarfod ac unedau gwerthu bwyd, diodydd a manwerthu.
Bydd y datblygiad swyddfeydd gorffenedig, yr amcangyfrifir y bydd yn werth £32.6 miliwn i economi Abertawe unwaith y bydd yn weithredol, yn cynnwys pum llawr uwchben lefel y stryd a dau islawr.
Yn ogystal â 114,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr masnachol gyda chyfleoedd rhwydweithio a chydweithio hyblyg, mae cyswllt newydd rhwng Stryd Rhydychen a Ffordd y Brenin hefyd yn cael ei adeiladu. Bydd digon o wyrddni newydd yn cael ei gyflwyno hefyd fel rhan o'r cyswllt hwnnw.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae prinder swyddfeydd hyblyg, modern o'r math hwn yn Abertawe, felly bydd y datblygiad hwn yn ateb y galw gan y gymuned fusnes sy'n parhau i fod yn uchel er gwaethaf y ffaith fod y pandemig wedi arwain at lawer yn gweithio gartref.
"Gan fod y cynnydd o ran y gwaith adeiladu ar y safle'n fwy amlwg, mae trafodaethau'n datblygu gyda darpar denantiaid, a chyn bo hir bydd mwy o waith yn cael ei wneud i farchnata lleoedd sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd.
"Bydd y datblygiad hwn yn fuddiol i'r busnesau sy'n derbyn tenantiaethau yno a hefyd yn fanteisiol i ganol y ddinas yn ei gyfanrwydd gan fod mwy o weithwyr yn golygu y bydd mwy o arian yn cael ei wario yn ein siopau, ein bwytai, ein tafarndai ac yn ein busnesau eraill.
"Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys safonau effeithlonrwydd a chynaladwyedd uchel, gan fod ei ddyluniad wedi'i gydnabod am ragoriaeth amgylcheddol."
Mae cynllun 71/72 Ffordd y Brenin yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe a'i gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Bydd paneli solar ar ben yr adeilad, system wresogi dan y llawr a systemau adfer gwres i leihau'r defnydd o ynni.
Bydd hefyd yn cynnwys system dal dŵr glaw a fydd yn helpu i gyflenwi dŵr i blanhigion a choed yn yr adeilad ac o'i gwmpas.
Bydd y to gwyrdd yn atal dŵr glaw ffo a fydd yn arbed dŵr o fewn y cynllun.