Nawr yng nghanol ei thaith 15 mlynedd i drawsnewid De-orllewin Cymru drwy fuddsoddiad o £1.3 biliwn mewn naw o brosiectau a rhaglenni mawr, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn dathlu llawer o gyflawniadau drwy ei rhaglen Sgiliau a Thalentau.

Dan arweiniad y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, bydd rhaglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn denu £30 miliwn o arian gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Wedi'i yrru gan gydweithrediad cryf rhwng darparwyr addysg, sefydliadau hyfforddi, a busnesau lleol, dros gyfnod o ddeng mlynedd bydd y rhaglen yn darparu 14,000 o gyfleoedd uwchsgilio ac yn creu dros 3,000 o leoliadau prentisiaeth. Mae eisoes wedi darparu mwy na 26,000 o gyfleoedd sgiliau gwell ac wedi datblygu 38 fframwaith cwrs newydd, gan ragori ar y ddau darged gwreiddiol.

Gyda mwy na 30 o brosiectau peilot naill ai ar y gweill neu wedi'u cwblhau'n llwyddiannus ledled y rhanbarth, mae'r rhaglen eisoes yn cael effaith, gan gefnogi miloedd o fyfyrwyr lleol i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer cyfleoedd gwaith newydd cyffrous. 

Mae Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy yn brosiect peilot Sgiliau a Thalentau chwyldroadol a'r cyntaf i gael ei gymeradwyo ar gyfer cyllid Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Dan arweiniad Coleg Sir Benfro, mae wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei effaith eithriadol dros y 2 flynedd ddiwethaf, ac mae'n cael ei gyflwyno y tu allan i Dde-orllewin Cymru gyda rhanbarthau a darparwyr hyfforddiant eraill. Mae Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy wedi ennill tair gwobr achrededig gan y diwydiant ac wedi cyrraedd y rownd derfynol am dair gwobr arall, gan brofi bod y dull arloesol hwn o weithio gyda diwydiant yn cael ei gydnabod

Yn fwy diweddar, mae'r prosiect peilot Pŵer Cynaliadwy, Ynni Adnewyddadwy ac Adeiladu (SPARC) hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth ac wedi dathlu llwyddiant trwy wobrau'r diwydiant. Wedi'i lansio gan Goleg Sir Benfro yn 2024, mae SPARC yn fenter arloesol i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhywedd a grymuso menywod i yrfaoedd yn y diwydiant Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM). Gan weithio ar y cyd â Chyngor Sir Penfro, ysgolion lleol a phartneriaid yn y diwydiant, mae SPARC wedi darparu dysgu ymarferol, gweithdai, a phrofiad yn y byd go iawn i dros 170 o fenywod ifanc ym maes ynni adnewyddadwy, pŵer cynaliadwy, peirianneg ac adeiladu trwy dros 90 o sesiynau ymgysylltu. 

Enillodd SPARC neu gyrraedd y rownd derfynol ar gyfer: 

  • Enillydd: Gwobrau Menywod mewn Busnesau Gwyrdd 2025: Gwobrau Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Flwyddyn. 
  • Canmoliaeth Uchel: Gwobrau Menywod mewn Busnesau Gwyrdd 2025: Gwobr Ymgyrch y Flwyddyn.
  • Canmoliaeth Uchel: Gwobr STEM Cymru 2025: Rhaglen Addysgol y Flwyddyn. 
  • Canmoliaeth Uchel: Gwobrau Ynni Gwynt ar y Môr Renewables UK 2025: Gwobr Sgiliau a Phobl. 


Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: 

"Mae'r cynnydd rydyn ni'n ei weld drwy'r rhaglen Sgiliau a Thalentau yn wirioneddol trawsnewid bywydau a chymunedau ar draws De-orllewin Cymru. Mae cefnogi anghenion diwydiant a buddsoddi yn ein pobl, yn sicrhau bod gan ein talent leol y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi'r dyfodol.  

"Mae llwyddiant prosiectau arloesol fel SPARC a Chyrchfan Ynni Adnewyddadwy yn adlewyrchu'r arloesedd, y cydweithio a'r uchelgais sydd gennym ar gyfer ein rhanbarth. Mae'r cyflawniadau hyn a gydnabyddir gan y diwydiant yn enghraifft bwerus o sut y gall gwir bartneriaeth a gweledigaeth glir lunio dyfodol mwy disglair, mwy cynhwysol i bawb".

Dywedodd Dr Barry Walters, Pennaeth Coleg Sir Benfro:

"Mae cefnogaeth gan raglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi galluogi Coleg Sir Benfro i lansio mentrau na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall. Mae prosiectau fel Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy a SPARC yn cael effaith wirioneddol yn y rhanbarth trwy godi ymwybyddiaeth ynghylch trawsnewid ynni ymhlith pobl ifanc ac ysbrydoli merched ysgol uwchradd i archwilio'r cyfleoedd niferus i fenywod mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg."