Bydd trefi a phentrefi gwledig yn Ne-orllewin Cymru yn elwa ar brosiect Gigadid Llywodraeth y DU, sy'n anelu at ddarparu cysylltedd gigadid i safleoedd anodd eu cyrraedd ledled Prydain erbyn 2030.
Mae'r rhaglen yn elfen allweddol o Gynllun Newid y Llywodraeth, sydd wedi'i gynllunio i ysgogi twf economaidd a chael gwared ar rwystrau, gyda'r nod o sicrhau darpariaeth gigadid mor agos â phosibl i 100% erbyn 2030.Bydd y datblygiad diweddaraf hwn yn sicrhau bod cymunedau sy'n anoddach eu cyrraedd yn manteisio ar rai o’r cyflymderau band eang cyflymaf sydd ar gael, gan ddarparu gwell mynediad at wasanaethau hanfodol fel gofal iechyd, addysg o bell a galwadau fideo. Bydd hefyd yn cefnogi busnesau i dyfu a darparu gwell cyfleoedd i bobl ifanc gael gwaith yn lleol.
Cllr. Hazel Evans, Cyngor Sir Gaerfyrddin, dywedodd:
"Mae hwn yn gyhoeddiad croesawgar, wrth i ni ymdrechu i wella cysylltedd digidol ar draws Sir Gaerfyrddin. Bydd buddsoddiad pellach mewn cysylltedd yn helpu i sicrhau bod cymunedau gwledig yn parhau i ffynnu wrth i ni symud tuag at gymdeithas ddigidol."
Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:
"Dyma newyddion gwych i'r cymunedau gwledig yn ein rhanbarth a fydd yn elwa ar y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth y DU. Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn gwbl gefnogol o fentrau sy'n gwella bywydau pobl a busnesau yn uniongyrchol ac mae hon yn enghraifft wych o sut y gall buddsoddi mewn seilwaith digidol ddarparu mwy o gyfleoedd yn gymdeithasol ac yn economaidd i gymunedau, a fyddai fel arall wedi cael eu gadael ar ôl."
Mae'r cyhoeddiad yn rhan o bedwar contract newydd gwerth dros £289 miliwn, gyda'r nod o ddarparu band eang sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd gigadid i oddeutu 131,000 o gartrefi a busnesau ychwanegol ledled Cymru a Lloegr.
Yn wahanol i rwydweithiau presennol sy'n seiliedig ar gopr, mae cysylltiadau gigadid yn llai tebygol o arafu ar adegau prysur, sy'n golygu dim mwy o frwydro am led band gyda chymdogion. Gall rhwydweithiau Gigadid gynnal ystod o ddyfeisiau yn hawdd ar yr un pryd, gan ganiatáu i'r teulu cyfan syrffio, ffrydio a lawrlwytho'n ddi-dor.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru:
"O ganlyniad i'r buddsoddiad hwn gan Lywodraeth y DU, bydd miloedd yn fwy o bobl a busnesau ledled Cymru yn gallu cael band eang cyflym iawn. Ein prif flaenoriaeth yw ysgogi twf economaidd parhaus. I gyflawni hyn, mae'n hanfodol bod pob rhan o Gymru yn cael cwmpas llawn cyn gynted â phosibl er mwyn hybu cynhyrchiant yn ein holl gymunedau."
Mae'r Rhaglen Seilwaith Digidol wedi ymrwymo i gefnogi'r ymdrechion hyn, gan sicrhau nad yw cymunedau gwledig yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe yn cael eu gadael ar ôl yn yr oes ddigidol.Bydd y tîm yn parhau i weithio'n agos gyda Building Digital UK Llywodraeth y DU (BDUK) ac Openreach wrth i Brosiect Gigadid gael ei gyflawni. Bydd gan BDUK ddiweddariadau rhanbarthol pellach dros yr ychydig fisoedd nesaf gan roi syniad cliriach o ran amserlenni a lleoliadau a fydd yn elwa ar Brosiect Gigadid.
Mae uwchraddio ac ehangu rhwydweithiau presennol yn broses gymhleth, sy'n gofyn am arolygon technegol a chydlynu â chynlluniau masnachol presennol ac ystod o adrannau'r awdurdodau lleol, gan gynnwys cynllunio a phriffyrdd. O ganlyniad, gall darparu band eang sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd gigadid gymryd amser. Gwyliwch y fideo byr hwn i weld trosolwg o'r broses.Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gynlluniau band eang yn eich ardal, gallwch gysylltu â'ch Hyrwyddwr Digidol a fydd yn hapus i roi rhagor o wybodaeth i chi.
Cysylltwch a’ch hyrwyddwr digidol