Mae'r cwmni technoleg newydd o Gymru, Veeqo, sy'n eiddo i Amazon wedi agor pencadlys newydd yn Abertawe, gan nodi twf parhaus ar gyfer y busnes llwyddiannus lleol sydd wedi treblu ei weithlu byd-eang mewn tair blynedd.
Mae'r busnes yng nghynllun swyddfeydd 71/72 Ffordd y Brenin yng nghanol y ddinas, adeilad a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe ac a ariannwyd yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae'n rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau.
Mae Veeqo yn cynhyrchu meddalwedd rheoli cludiant a stocrestrau am ddim ar gyfer mwy na 100,000 o fusnesau ym mhedwar ban y byd. Mae'r feddalwedd yn gwneud e-fasnach yn fwy effeithlon a galluog i ehangu'n gyflym drwy helpu busnesau i gyflawni archebion ar draws amryfal wefannau a storfeydd, cysoni stocrestrau a darparu cyfraddau cludo cost isel yn awtomatig.
Roedd Veeqo, a gaffaeliwyd gan Amazon yn 2021, wedi lansio'i swyddfa gyntaf - a 'Chanolfan Ddatblygu' gyntaf Amazon yng Nghymru - yn 2022 ac mae wedi tyfu o 60 o weithwyr i fwy na 200 yn ystod y tair blynedd diwethaf, gyda hanner y rheini bellach yn gweithio yn y safle newydd sbon yn Abertawe.
Sefydlwyd Veeqo gan y Prif Swyddog Gweithredol, Matt Warren yn 2013 fel gwerthwr ar-lein yr oedd angen meddalwedd arno a fyddai'n gwneud archebion cludo o amryfal sianelau gwerthu'n rhatach ac yn haws.
Meddai, "Mae ein swyddfa estynedig yn Abertawe'n ein galluogi i barhau i adeiladu gwasanaethau sy'n ei gwneud hi'n haws i entrepreneuriaid a busnesau werthu o gwmpas y byd.
"Rwy'n falch ein bod wedi parhau i greu swyddi technoleg hynod fedrus yng Nghymru a bod ein cwmni lleol yn cael effaith fyd-eang fawr."
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae hyn yn newyddion gwych i Abertawe.
"Mae Veequo yn stori llwyddiant lleol go iawn - busnes a gafodd ei eni yma, a dyfwyd yma ac sydd bellach yn ffynnu'n rhyngwladol dan Amazon. Mae cael y cwmni yn natblygiad 71/72 Ffordd y Brenin yn bleidlais o ffydd yn nhalent, isadeiledd a dyfodol ein dinas fel dinas arweiniol ar gyfer busnesau yn y sector technoleg.
"Bydd staff yn Veequo bellach yn ymuno â channoedd o staff o gwmnïau eraill sydd eisoes yn gweithio yn yr adeilad. Caiff rhagor o denantiaid eu cyhoeddi yn yr wythnosau sy'n dod wrth i ni nesáu at feddiannu'r adeilad yn llawn, gyda hyd at 600 o bobl yn gweithio yno.
"Bydd y datblygiad hefyd yn cyfuno â chynlluniau eraill yng nghanol y ddinas i gynyddu nifer yr ymwelwyr, a fydd yn helpu i gefnogi masnachwyr presennol canol y ddinas a denu rhagor o siopau a busnesau eraill i ganol y ddinas yn y dyfodol."
Meddai Torsten Bell, "Mae Veeqo yn llwyddiant gwirioneddol Gymreig ac yn dangos y math o dwf gwerth uchel sy'n seiliedig ar dechnoleg rydym am ei weld yn ffynnu ledled Cymru.
"Mae ymrwymiad y cwmni i feithrin doniau pobl leol yma yng Nghymru a'i gefnogaeth i brentisiaid ac interniaid yn dangos buddsoddiad go iawn yn ein cymuned leol.
"Mae cwmnïau fel Veeqo yn dangos bod Cymru wrth wraidd buddsoddiad gwerth £40 biliwn ledled y DU gan Amazon dros y tair blynedd nesaf. Mae hyn yn ymwneud â chreu cyfleoedd, meithrin sgiliau a datblygu sector technoleg a all gystadlu'n fyd-eang wrth barhau i gael ei wreiddio yng nghymunedau Cymru."
Meddai John Boumphrey, Rheolwr Amazon yn y DU, "Ers lansio ein canolfan ddatblygu gyntaf yng Nghymru dair blynedd yn unig yn ôl, rydym wedi gwylio tîm Veeqo yn tyfu o 60 i fwy na 200 o bobl yn fyd-eang, sy'n brawf bod gan Gymru'r bobl dalentog a'r uchelgais i greu technoleg o'r radd flaenaf.
"Mae'r pencadlys newydd hwn yn dangos ein hymrwymiad tymor hir i Gymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weld yr hyn y bydd Veeqo yn ei greu nesaf wrth i'r cwmni helpu 100,000 o fusnesau'n fyd-eang i werthu a morgludo'n fwy effeithlon."
Meddai Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, "Mae'r buddsoddiad hwn gan Amazon yn dangos bri cynyddol Cymru fel hwb ar gyfer technoleg ac arloesi. Drwy ehangu y mae Veeqo yn creu swyddi a chyfleoedd o safon i'n pobl ifanc, gan gefnogi busnesau ledled Cymru a'r tu hwnt.
"Rydym yn creu amgylchedd y gall cwmnïau cartref ffynnu ynddo ac y gall ceffylau blaen byd-eang fuddsoddi ynddo, gan ysgogi twf economaidd ar ran cymunedau ledled Cymru."
Mae cwmnïau sydd eisoes yn y datblygiad yn 71/72 Ffordd y Brenin, a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe ac ariannwyd yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn cynnwys y cwmni teithio a hamdden TUI yn ogystal â'r cwmni ariannol Futures First.
Mae'r darparwr gweithleoedd hyblyg, IWG, wrthi'n gwneud ei waith gosod mewnol yn y cynllun, y disgwylir iddo fod yn werth £32.6m y flwyddyn i economi Abertawe.