Y Drindod Dewi Sant yn Agor y Matrics Arloesi yn Swyddogol – Canolfan ar gyfer Arloesi Digidol a Chydweithio Busnes
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi agor y Matrics Arloesi yn swyddogol, sef cyfleuster arloesol 2,200 metr sgwâr yn SA1 y Glannau yn Abertawe.
Wedi’i gynllunio i ysgogi arloesedd digidol, entrepreneuriaeth, a chydweithio diwydiannol, mae’r gofod newydd wedi’i leoli ochr yn ochr ag adeiladau cyfredol IQ ac Y Fforwm. Mae eisoes wedi denu naw busnes i’w lleoliadau gwaith sydd o ansawdd uchel, gan greu clwstwr deinamig gyda’r fantais ychwanegol o fynediad uniongyrchol i arbenigedd ac ymchwil y Brifysgol.
Wedi’i ariannu drwy bartneriaeth strategol rhwng Y Drindod Dewi Sant a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae’r Matrics Arloesi yn cynnig cyfle unigryw i fusnesau sefydledig a busnesau newydd deinamig gyflymu datblygiad cynnyrch newydd, cael mynediad at gymorth technegol arbenigol, llogi talent graddedigion a chreu partneriaethau cyfnewid gwybodaeth gyda’r Brifysgol.
Datblygwyd yr adeilad gan Kier Construction, a sicrhaodd werth £6 miliwn o gontractau i fusnesau yng Nghymru yn ystod y broses adeiladu.
Mynychwyd y digwyddiad lansio gan gynrychiolwyr llywodraethau Cymru a’r DU, arweinwyr dinesig a phartneriaid diwydiant, gan gynnwys:
- Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Llywodraeth Cymru
- Y Fonesig Nia Griffith DBE AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol y Senedd, Swyddfa Cymru, Llywodraeth y DU
- Y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, ac arweinydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
Dywedodd y Fonesig Nia Griffith DBE AS: “Mae’n wych bod cyllid Llywodraeth y DU, drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe, wedi cyfrannu at adeiladu’r cyfleuster gwych hwn. Ein prif genhadaeth, fel y nodir yn ein Cynllun ar gyfer Newid, yw twf economaidd.
“Bydd y Matrics Arloesi yn darparu lle i fusnesau sefydledig dyfu a busnesau newydd i ddechrau, gan greu swyddi yn niwydiannau uwch-dechnoleg y dyfodol.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
“Rydym am i Gymru fod ar flaen y gad o ran arloesi technolegau newydd sy’n ysgogi newid ystyrlon mewn cymdeithas ac sydd o fudd i bobl yn eu bywydau o ddydd i ddydd.
“Bydd y datblygiad cyffrous hwn yn meithrin ecosystem o’r radd flaenaf ar gyfer arloesedd digidol a menter a all fod yn gatalydd ar gyfer twf economaidd a ffyniant.
“Mae’n destament i’r rhagoriaeth y gall gweithio mewn partneriaeth ei chyflawni ar gyfer economïau rhanbarthol yng Nghymru, ac mae’n gam arall ymlaen ar ein taith i ddyfodol cryfach, tecach a gwyrddach.”
Ymhlith y cwmnïau sydd eisoes wedi ymsefydlu yn y Matrics Arloesi, gan elwa o’r amgylchedd cydweithredol yw:
- Kaydiar Medical – Egin gwmni meddygol sy’n datblygu technoleg orthotig ar gyfer atal clwyfau.
- BroadReach Integrity – Gwneuthurwr sganwyr canfod cyrydiad arloesol.
- Rockfield - Cwmni technoleg uwch sy’n darparu systemau efelychu, rhifiadol blaenllaw ynghyd â’u cymwysiadau diwydiannol.
- Gwyr Films – Menter adrodd straeon nid-er-elw sy’n hyrwyddo celfyddydau a diwylliant Cymru.
- IDNS – darparwr datrysiadau digidol sy’n trawsnewid cydweithio ac ymgysylltu.
- Wolfestone – Darparwr blaenllaw gwasanaethau ieithyddol cynhwysfawr sy’n helpu busnesau i gyfathrebu ar draws marchnadoedd byd-eang.
- Visit Digital - Arbenigwyr ar harneisio pŵer data busnes, gan ddarparu mewnwelediadau gweithredadwy a strategaethau wedi’u teilwra i gleientiaid sy’n galluogi gwneud penderfyniadau cyflymach, mwy gwybodus.
- Purus – Darparwr gwasanaethau morwrol sy’n cefnogi ynni gwynt a charbon isel ar y môr.
- ATiC – darparwr sy’n defnyddio’r cyfleusterau Gwerthuso Profiad a Defnyddioldeb diweddaraf i gefnogi prototeipio a datblygu technolegau iechyd newydd yn gyflym.
Meddai’r Athro Elwen Evans, CB, Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant: “Mae agor yr adeilad newydd hwn yn gam sylweddol mewn arloesi digidol, gan ddarparu cyfle unigryw i gydweithio, cyd-leoli a ffynnu mewn gofod o ansawdd uchel a gynlluniwyd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth. Trwy ddod â diwydiant ac addysg ynghyd, rydym yn meithrin amgylchedd lle gall syniadau blaengar ddatblygu, gall talent ffynnu, a gall arloesi ysgogi twf economaidd.”
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart: “Mae gan Abertawe hanes balch o arloesi ac entrepreneuriaeth, ond bu prinder yn ystod y blynyddoedd diwethaf o swyddfeydd o ansawdd uchel a mannau gwaith ar y cyd i ddiwallu anghenion pobl fusnes ac entrepreneuriaid uchelgeisiol.
“Gyda chefnogaeth cysylltedd digidol blaengar, bydd y Matrics Arloesi yn ategu sawl prosiect arall yn Abertawe i helpu i ddiwallu’r angen hwnnw gan roi mynediad hefyd i arbenigedd ac ymchwil prifysgol.
“Bydd yn cefnogi busnesau presennol, yn rhoi cyfle i fusnesau newydd ffynnu a helpu i greu swyddi i bobl leol.
“Bydd y Matrics Arloesi hefyd yn cyfuno â datblygiadau eraill fel cynllun swyddfa 71/72 Ffordd y Brenin i atgyfnerthu enw da Abertawe ymhellach fel dinas fusnes a buddsoddiad.”
Mae’r Matrics Arloesi yn cynrychioli ymrwymiad Y Drindod Dewi Sant i feithrin arloesedd digidol a thwf busnes, gan atgyfnerthu statws Abertawe fel chwaraewr allweddol yn nhirwedd technoleg ac entrepreneuriaeth y DU. Trwy bontio’r bwlch rhwng y byd academaidd a diwydiant, bydd y cyfleuster yn dod yn gatalydd ar gyfer trawsnewid economaidd, gan gefnogi sgiliau, ymchwil a datblygu menter y rhanbarth yn y dyfodol.