Mae dau denant wedi'u cyhoeddi ar gyfer datblygiad swyddfeydd mawr newydd yng nghanol dinas Abertawe.

Bydd IWG a TUI yn defnyddio swyddfeydd yn adeilad 71/72 Ffordd y Brenin sydd bellach yn cael ei drosglwyddo i Gyngor Abertawe.

Bydd y darparwr mannau gweithio hyblyg IWG yn defnyddio tua 20,000 troedfedd sgwâr o'r datblygiad, a bydd cwmni teithio a hamdden TUI yn defnyddio oddeutu 7,000 troedfedd sgwâr.

Mae'r rhan fwyaf o'r lle sy'n weddill yn y cynllun hefyd dan gynnig ac mae'r cyngor wrthi'n cynnal trafodaethau â nifer o denantiaid eraill sy'n dod i Abertawe.

Disgwylir rhagor o gyhoeddiadau cadarnhaol dros yr wythnosau nesaf.

Adeiladwyd 71/72 Ffordd y Brenin gan Bouygues UK ac fe'i datblygwyd gan Gyngor Abertawe.

Ariannwyd y datblygiad yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, ac mae'r cynllun 104,000 troedfedd sgwâr yn cynnwys swyddfeydd a mannau gweithio a rennir, yn ogystal â neuadd ddigwyddiadau a lleoedd ar gyfer busnesau bwyd a diod.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai IWG a TUI yw tenantiaid cyntaf y datblygiad.

"Bu diffyg swyddfeydd o safon yn Abertawe yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a nod cynlluniau fel 71/72 Ffordd y Brenin yw helpu i fynd i'r afael â hynny i gadw busnesau a swyddi yng nghanol y ddinas, gan helpu i ddenu buddsoddiad a swyddi newydd hefyd.

"Mae trafodaethau â chwmnïau a fyddai'n newydd i Abertawe hefyd yn mynd rhagddynt a bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi'n fuan."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Drwy ddarparu lle ar gyfer hyd at 600 o weithwyr, bydd cynllun 71/72 Ffordd y Brenin yn cyfuno â datblygiadau eraill sydd naill ai wedi'u cwblhau neu bron wedi'u cwblhau i ddenu rhagor o ymwelwyr â chanol y ddinas.  Bydd hyn o fudd i fasnachwyr presennol ac yn helpu i ddenu hyd yn oed mwy o fuddsoddiad yn y dyfodol, fel siopau a busnesau eraill.

"Hoffem ddiolch i'n holl bartneriaid ariannu am eu cefnogaeth wrth ddatblygu'r cynllun hwn. Mae'n rhan o raglen adfywio gyffredinol gwerth dros £1bn sy'n trawsnewid ein dinas i fod yn lle blaenllaw i fyw, gweithio, astudio, mwynhau ac ymweld ag ef."

Meddai'r Fonesig Nia Griffith, Gweinidog Swyddfa Cymru Llywodraeth y DU, "Mae'n newyddion gwych bod y datblygiad swyddfeydd nodedig hwn yn Abertawe ar agor am fusnes a'i fod eisoes yn denu cwmnïau mawr fel IWG a TUI.

"Mae 71/72 Ffordd y Brenin yn stori lwyddiant sydd wedi'i hariannu'n rhannol drwy fuddsoddiad Llywodraeth y DU ym Margen Ddinesig Bae Abertawe.

"Mae'r cyllid hwn yn helpu i gyflawni ein prif genhadaeth sef twf economaidd a rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl, fel rhan o'n Cynllun ar gyfer Newid."

"Rydym am annog busnesau i ddod i Abertawe, i greu swyddi newydd ac i gyfrannu at ffyniant yr economi leol."

Meddai Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn Llywodraeth Cymru, "Mae hwn yn garreg milltir bwysig ar gyfer dinas Abertawe ac ar gyfer cyflwyno Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gan hybu twf ac arloesedd yn ein cymunedau.

"Mae'r prosiect trawsnewidiol hwn wedi gwella isadeiledd y ddinas a bydd hefyd yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer busnesau lleol. Rydym yn edrych ymlaen at weld yr effaith economaidd a chymdeithasol gadarnhaol a ddaw o'r prosiect hwn."

Cyn bo hir bydd IWG a TUI yn dechrau'r gwaith gosod yn 71/72 Ffordd y Brenin cyn i weithwyr symud yno.

Meddai Neil Swanson, Rheolwr Gyfarwyddwr TUI ar gyfer y DU ac Iwerddon, "Rydym yn gyffrous iawn am y cynlluniau i symud gweithwyr ein canolfan gyswllt yn Abertawe.

"Mae adeilad 71/72 Ffordd y Brenin yn edrych yn wych ac mae'n cyd-fynd â'n hymagwedd at gynaliadwyedd.

"Mae pob agwedd ar le, cyfleusterau a chynllun yr adeilad wedi'u cynllunio'n ofalus i greu amgylchedd gwaith eithriadol sy'n cefnogi lles ein timau."

Mae cynllun 71/72 Ffordd y Brenin yn cynnwys teras gwyrdd ar y to sydd â golygfeydd dros Fae Abertawe, paneli solar ar ben yr adeilad a systemau adfer gwres i leihau'r defnydd o ynni.

Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys 69 o leoedd i feiciau a man gwefru beiciau trydan yn ogystal â chyfleusterau cawod a newid helaeth a chyswllt newydd rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen.