Stori Luke, Swyddog Prosiect yn Celtic Sea Power

Partner cyflawni ym Mhrosiect Ardal Forol Doc Penfro

Ar ôl treulio dros 12 mlynedd o wasanaeth gyda Lluoedd Arfog EF, penderfynodd Luke ei fod am newid gyrfa. Cofrestrodd i astudio am BEng mewn Peirianneg Ynni Adnewyddadwy ym Mhrifysgol Caerwysg, ac yn fuan ar ôl graddio bu'n gweithio fel peiriannydd dylunio i gwmni 
sy'n gosod PV solar, systemau batri storio ynni a phympiau gwres. Roedd hon yn rôl gyffrous i Luke gan ei fod wedi bod eisiau gweithio yn y sector ynni adnewyddadwy erioed, ac er bod hynny'n hollol wahanol i'w brofiadau blaenorol yn y fyddin, roedd yn gallu addasu a defnyddio  ei sgiliau trosglwyddadwy. 

Symudodd Luke wedyn i Celtic Sea Power, lle mae’n gweithio fel Swyddog Prosiect, gan helpu i  gyflawni rhan o brosiect AFDP BDdBA. Ei brif gyfrifoldeb yw archwilio rôl is-strwythurau concrit sydd eu hangen ar gyfer Ynni'r Gwynt Ar y Môr sy'n arnofio yn y Môr Celtaidd. Mae'n cynnwys ymgysylltu â'r gadwyn gyflenwi leol a datblygu ei sgiliau a'i brofiad o fewn y diwydiant. Mae'r rôl hon wedi rhoi'r cyfle iddo ddysgu sut mae'r diwydiant yn gweithio, ac i ryngweithio ag ystod amrywiol o randdeiliaid ar wahanol lefelau o fewn 
sefydliadau.

"Dyw hi byth yn rhy hwyr i newid eich llwybr gyrfa – rwy’n dystiolaeth o  hynny. Chwiliwch am rywbeth sydd o ddiddordeb ichi, ac am gyfleoedd  i raddedigion. Dechreuwch feddwl yn fuan yn eich lleoliad am y math o swydd yr hoffech ei chael a gwneud ceisiadau'n fuan am gynlluniau i raddedigion. Byddwn i hefyd yn argymell cysylltu â’r diwydiant i sefydlu’r heriau presennol a seilio traethawd hir neu brosiect ar yr 
heriau hyn i'ch helpu i gael swydd."