Mae tenant arall wedi'i enwi ar gyfer datblygiad swyddfeydd newydd mawr yng nghanol dinas Abertawe yn adeilad 71/72 Ffordd Y Brenin..

Bydd Optical Express a'u brand partner, sk:n, yn llenwi uned ar lawr gwaelod adeilad 71/72 Ffordd y Brenin sydd yn rhan o ein prosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau.

Bydd Optical Express, arweinydd y farchnad yn y DU mewn llawfeddygaeth cywiro'r golwg y telir amdani'n breifat, yn cynnig ymgynghoriadau ar gyfer llawdriniaeth gataract breifat o'r radd flaenaf, llawdriniaeth amnewid lens presbyopia a thrin llygaid â laser, tra bydd sk:n yn cynnig triniaethau dermatoleg, esthetig a laser.

Gall y ddau frand ddarparu gofal o fewn mater o ddyddiau neu wythnosau o'r cyswllt cyntaf.

Meddai Dr Stephen Hannan, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Clinigol Optical Express a sk:n:

"Rydym yn falch iawn o agor ein clinig newydd ar Ffordd y Brenin yn Abertawe.

"Mae'r lle tra chyfoes hwn, sy'n amgylcheddol ymwybodol, yn lleoliad delfrydol i Optical Express a sk:n ddarparu gofal o'r radd flaenaf i'r gymuned leol.

"Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad diwyro i brofiad cleifion eithriadol, wedi'i gefnogi gan y dechnoleg ddiweddaraf, cyfleusterau modern a thimau clinigol rhagorol.

"Mae llawdriniaeth cywiro'r golwg yn gwella golwg cleifion a hefyd eu hansawdd bywyd. Wrth i'r gwasanaethau a gyflenwir gennym ddatblygu, bydd cyfleoedd gyrfa hefyd yn datblygu i bobl leol."

Mae staff o gwmni teithio a hamdden TUI - yn ogystal â'r cwmni ariannol Futures First - eisoes yn gweithio o'r adeilad, sydd wedi'i ddatblygu gan Gyngor Abertawe ac wedi'i ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Mae'r darparwr gweithleoedd hyblyg IWG hefyd wedi dechrau gwneud ei waith gosod mewnol yn yr adeilad, a bydd rhagor o denantiaid yn cael eu cyhoeddi'n fuan.

Mae 80% o'r adeilad bellach wedi'i osod ac mae trafodaethau ar gyfer yr holl leoedd swyddfa sy'n weddill yno'n parhau.

Unwaith y bydd yn gwbl weithredol, bydd hyd at 600 o weithwyr yn gweithio yn yr adeilad, ac amcangyfrifir y bydd cynllun 71/72 Ffordd y Brenin yn werth £32.6m y flwyddyn i economi Abertawe.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Bu prinder lle o safon ar gyfer swyddfeydd yn Abertawe sy'n golygu bod risg o ran cadw busnesau yn y ddinas a denu busnesau a swyddi newydd yma.

"Nod cynllun 71/72 Ffordd y Brenin yw ymateb i'r her honno, felly rwy'n falch iawn o groesawu Optical Express a sk:n fel y tenantiaid diweddaraf ar gyfer y cynllun.

"O ystyried heriau fel siopa ar-lein, mae angen mwy o ymwelwyr a gwariant ar ganol dinas Abertawe hefyd i gefnogi ein busnesau presennol ac annog mwy o siopau a busnesau eraill i agor yno.

"Mae nifer y darpar gwsmeriaid yn allweddol i fusnesau pan fyddant yn ystyried ble i fuddsoddi, felly bydd cynllun 71/72 Ffordd y Brenin - ochr yn ochr â llawer o rai eraill sydd naill ai'n gyflawn, yn mynd rhagddynt neu wedi'u cynllunio - yn helpu i greu'r niferoedd hynny."

Mae staff y gweithredwr adeiladu Savills eisoes wedi dechrau gweithio yn 71/72 Ffordd y Brenin.

Mae'r cynllun 104,000 troedfedd sgwâr yn cynnwys teras gwyrdd ar y to sydd â golygfeydd dros Fae Abertawe, ynghyd â phaneli solar ar ben yr adeilad a systemau adfer gwres i leihau'r defnydd o ynni.

Mae'n cynnwys llwybr cyswllt newydd hefyd rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen.

Mae gwaith ar iard werdd newydd a fydd yn cynnwys coed, planhigion a chelfi stryd a fydd yn rhan o'r llwybr cyswllt hwnnw bellach wedi dechrau.

Caiff ei galw'n Iard Mowbray i anrhydeddu'r diweddar Huw Mowbray, swyddog poblogaidd ac uchel ei barch yng Nghyngor Abertawe yr oedd ei weledigaeth a'i ymroddiad wedi helpu i drawsnewid tirwedd y ddinas.