Mae cynlluniau ar gyfer Pentref Llesiant a Gwyddorau Bywyd unigryw yn Llanelli gwerth miliynau o bunnoedd wedi cymryd cam mawr ymlaen.
Mae cais cynllunio amlinellol bellach wedi'i gyflwyno i Gyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer y prosiect arloesol yn Llynnoedd Delta, sy'n cynnwys cyfleusterau chwaraeon a hamdden newydd, ynghyd â'r gwasanaethau diweddaraf ar gyfer iechyd a lles.
Yn amodol ar gymeradwyaeth cynllunio, gallai'r gwaith ddechrau ar y datblygiad gwerth £200m tua diwedd y flwyddyn.
Mae'r pentref yn anelu at greu hyd at 2,000 o swyddi o safon uchel, dros 15 mlynedd, gan helpu i roi hwb o £467 miliwn i'r economi leol.
Mae nodweddion eraill y datblygiad yn cynnwys cyfleoedd busnes ac ymchwil, addysg, hyfforddiant a llety byw â chymorth. Bydd y safle hefyd yn cael ei dirlunio i roi cyfleoedd ar gyfer teithiau cerdded, beicio a hamdden.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn arwain y pentref, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg trwy bartneriaeth ARCH.
Mae'r datblygiad yn rhan o raglen y Fargen Ddinesgig gwerth £1.3 biliwn, sy'n cynnwys 11 o brosiectau mawr ar draws Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro. Mae gwaith yn mynd rhagddo â Llywodraethau Cymru a'r DU i ddatblygu'r cais er mwyn sicrhau buddsoddiad o £40 miliwn ar gyfer y pentref gwyddoniaeth a lles bywyd fel rhan o'r rhaglen hon.
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, y Cynghorydd Emlyn Dole: "Dangosodd digwyddiad galw heibio yn Llanelli yn ddiweddar fod mwy na 90% o bobl naill ai'n gefnogol neu'n gefnogol iawn i'r prosiect, sy'n galonogol iawn gan ein bod ni'n benderfynol o gyflwyno'r datblygiad hwn er eu budd nhw.
"Bydd cynaliadwyedd yn allweddol i'r datblygiad, ynghyd â dyluniad sensitif sy'n sicrhau bod adeiladau newydd yn cyd-fynd â chymeriad yr ardal gyfagos."
Meddai'r Athro Marc Clement, Deon yr Ysgol Reolaeth, sy'n arwain y prosiect ar gyfer y Brifysgol ochr yn ochr â chydweithwyr o Ysgol Feddygol y Brifysgol a'r Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd: "Mae’r Fargen Ddinesig wedi cychwyn proffil a momentwm newydd ar gyfer y rhanbarth. Rydym wrth ein bodd bod prosiect Pentref Llesiant a Gwyddorau Bywyd yn Sir Gaerfyrddin yn symud ymlaen yn gyflym. Nod Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yw denu ymchwil o'r radd flaenaf, twf economaidd a chreu swyddi newydd."
Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, mai pentref yw'r prosiect adfywio mwyaf yn ne-orllewin Cymru. Dywedodd: "Mae arloesi yn hanfodol i gwrdd â heriau'r GIG ac mae'r brifysgol yn gweld ei hun fel partner allweddol yn hyn o beth.
"Ochr yn ochr â chreu swyddi, bydd y safle'n darparu cyfleusterau ar gyfer ymchwil, addysg, hyfforddiant a sgiliau. Bydd y pentref yn adeiladu ar lwyddiant Sefydliad Gwyddorau Bywyd yr Ysgol Feddygol (ILS) ym Mhrifysgol Abertawe sy'n denu buddsoddiad yn y sector preifat a fydd yn creu swyddi o ansawdd da, sy'n cael eu talu'n dda ar draws ystod o broffesiynau ac yn hybu'r economi.
"Un o brif nodau'r prosiect yw rhoi'r person yng nghanol gofal iechyd gan ganolbwyntio ar hyrwyddo byw'n iach yn annibynnol trwy ddarparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden ochr yn ochr â gwasanaethau gofal iechyd."
Bydd cam cyntaf y prosiect, a fydd ar agor yn gynnar yn 2021, yn cynnwys canolfan iechyd cymunedol, tirlunio helaeth a chanolfan da byw sy'n cynnwys canolfan hamdden o ansawdd uchel.
Mae cyflwyno'r cais cynllunio amlinellol yn dilyn cyfnod ymgynghori cyn cynllunio sydd wedi'i orffen erbyn hyn.”