Mae Porthladd Aberdaugleddau, un o bartneriaid cyflawni prosiect Ardal Forol Doc Penfro Bargen Ddinesig Bae Abertawe, wedi'i achredu'n swyddogol fel sefydliad Great Place To Work Certified™ ar gyfer 2025-2026 – sef y drydedd flwyddyn i'r sefydliad dderbyn yr ardystiad mawreddog hwn.

Mae derbyn ardystiad Great Place To Work yn dipyn o gamp. Mae’r broses yn seiliedig ar adborth dienw ac wedi’i ddilysu gan weithwyr, a gesglir gan Great Place To Work – yr awdurdod byd-eang ar ddiwylliant yn y gweithle.

Mae'r achrediad yn dathlu cwmnïau lle mae gweithwyr yn elwa’n gyson ar brofiad cadarnhaol yn y gwaith a chafodd Porthladd Aberdaugleddau sgôr sylweddol uwch na'r ganran trothwy ar gyfer ardystiad.

Cafodd diwylliannau Llesiant a Diogelwch ym Mhorthladd Aberdaugleddau sylw arbennig yn sgil cael sgoriau llawer uwch ar gyfer y meysydd hyn o'i gymharu â chwmni cyffredin yn y DU.

Yn ystod 2025, cafodd Porthladd Aberdaugleddau ardystiad hefyd fel un o weithleoedd gorau'r DU i fenywod, ac fel un o weithleoedd gorau'r DU ar gyfer gweithgynhyrchu, cynhyrchu a thrafnidiaeth.

Dywedodd Vidette Swales, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Porthladd Aberdaugleddau:

“Rydyn ni'n falch iawn o gynnal ein hachrediad gan Great Place To Work, ar ôl i nifer uchel iawn o weithwyr gymryd rhan yn ein harolwg diweddar.

“Mae'r arolwg yn ein galluogi i wrando a deall sut rydyn ni'n perfformio drwy lygaid ein gweithwyr, sy'n golygu ein bod ni'n gallu defnyddio'r adborth i wneud y newidiadau sydd bwysicaf i bawb.

“Mae parhau i ymgysylltu'n dda â staff a sicrhau diwylliant cadarnhaol yn y gweithle yn hanfodol i'n gweithrediadau eang yma ym Mhorthladd Aberdaugleddau. Fel prif borthladd ynni'r DU, mae ein timau yn cadw'r goleuadau ymlaen ac yn sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn y wlad yn parhau – felly mae bod yn weithle gwych yn bwysig iawn.”

Dywedodd Benedict Gautrey, Rheolwr Gyfarwyddwr Great Place To Work® UK:

“Rydyn ni'n gwybod bod blaenoriaethu profiad y gweithiwr yn arwain at feithrin ymddiriedaeth ymhlith gweithwyr, datblygu diwylliant arbennig yn y gwaith, ac yn y pen draw cyflawni canlyniadau busnes eithriadol. Llongyfarchiadau.”

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:

“Ein huchelgais drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe yw creu dros 9,000 o swyddi ar draws de-orllewin Cymru o fewn 15 mlynedd. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael mewn gweithleoedd lle mae pobl yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi a lle gallan nhw ffynnu.”