Mae’r gwaith o adeiladu llithrfa enfawr newydd a phontydd cychod ar gyfer cychod gwaith wedi dechrau ym Mhorthladd Penfro. Mae’n gam mawr ymlaen wrth wireddu gweledigaeth Porthladd Aberdaugleddau o ran Dyfrffordd Aberdaugleddau yn gwneud cyfraniad hanfodol wrth sbarduno twf gwyrdd newydd ledled y rhanbarth, a chefnogi trawsnewidiad y wlad i ddyfodol sero net yr un pryd.
Bydd y llithrfa newydd yn sicrhau’r hyblygrwydd mwyaf ar gyfer lansio ac adfer dyfeisiau a llongau ynni morol, a bydd y pontydd cychod yn cryfhau gweithrediadau’r Porthladd a’r cynnig cynnal a chadw ar gyfer y diwydiant gwynt arnofiol ar y môr.
Meddai Steve Edwards, Cyfarwyddwr Masnachol Porthladd Aberdaugleddau:
“Mae’n wych gweld y datblygiad hwn ar waith ym Mhorthladd Penfro. Bydd y gofodau a’r cyfleusterau newydd hyn sydd wedi’u huwchraddio yn berffaith ar gyfer y diwydiant carbon isel sy’n tyfu o gwmpas y Môr Celtaidd ynghyd â’r cwmnïau cadwyn gyflenwi a fydd yn elwa ar y cyfleoedd a fydd yn cael eu creu yma. Rydym yn edrych ymlaen at weld newidiadau enfawr dros y deunaw mis nesaf, gan weithio gyda diwydiant a’r byd academaidd i sicrhau’r buddiannau lleol a rhanbarthol mwyaf posibl.”
Mae’r gwaith yn cyd-fynd â’r gwaith o adnewyddu’r Rhandai sydd ynghlwm wrth siediau awyrennau Sunderland. Rydym hanner ffordd gyda’r gwaith adeiladu bellach a byddant yn creu gofodau swyddfa a gweithdai newydd ar gyfer y diwydiant. Bydd cyfnodau diweddarach y prosiect yn canolbwyntio ar greu gofodau mawr ar gyfer cynhyrchu a datblygu dyfeisiau.
Mae moderneiddio seilwaith y Porthladd yn rhan o brosiect Morol Doc Penfro, sef partneriaeth £60 miliwn rhwng Porthladd Aberdaugleddau, Offshore Renewable Energy Catapult, Ynni Môr Cymru a Celtic Sea Power. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe a thrwy’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae hefyd yn cael ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mae’r platfform cydweithredol hwn eisoes wedi denu cwmnïau o bedwar ban byd sy’n arwain ymchwil, datblygu a gweithgynhyrchu newydd ym maes cynhyrchu pŵer ynni morol, ac mae yno awch i wneud mwy. Mae’r Offshore Renewable Energy Catapult, sef canolfan dechnoleg, arloesi ac ymchwil mwyaf blaenllaw’r DU ar gyfer ynni adnewyddadwy ar y môr, hefyd wedi dangos ei hyder ym mhotensial yr ardal gyda datblygiad Canolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol gwerth miliynau o bunnoedd yn Noc Penfro.
Meddai’r Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro ac Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd:
“Mae cyswllt anorfod rhwng Dyfrffordd y Ddau Gleddau ac iechyd economi Sir Benfro. Mae angen i ni fuddsoddi yn y ddyfrffordd er mwyn cynnal cyflogaeth ond hefyd i sicrhau bod hwn yn parhau yn borthladd ynni mwyaf blaenllaw’r DU.
“Hyd at 30% o nwy y DU heddiw, ond hefyd Hydrogen Gwyrdd/ Glas a thrydan sy’n cael ei gynhyrchu gan ynni gwynt sy’n arnofio yfory.
“Y buddsoddiadau hyn yw’r sylfaen rydym yn gobeithio seilio cenhedlaeth nesaf y diwydiant ynni arnynt, ac yn sgil hynny y genhedlaeth nesaf o swyddi ynni.”
Meddai’r Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cydbwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:
“Mae’r Fargen Ddinesig yn gwneud cynnydd sylweddol mewn perthynas â’r uchelgais i dyfu’r economi a chreu cyfleoedd cyflogaeth yn Sir Benfro a ledled y rhanbarth, gyda ffocws ar y sector ynni a thechnolegau adnewyddadwy. Rydym yn croesawu BAM Nuttall i adeiladu’r pontydd cychod ar gyfer cychod gwaith a’r llithrfa ym Mhorthladd Penfro. Bydd hyn yn helpu i adfywio ardal y porthladd a chefnogi’r economi ynni glas-gwyrdd yn ehangach. Mae’r datblygiad cyffrous hwn, law yn llaw â chymeradwyaeth ddiweddar ar gyfer y prosiect peilot Sgiliau a Doniau’r Fargen Ddinesig, a fydd yn darparu sgiliau hanfodol yn y sector ynni adnewyddadwy, yn dangos ein bod yn canolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, cefnogi ynni gwynt sy’n arnofio ar y môr a datblygu ein doniau ifanc i gefnogi’r sector hwn.”
Mae cwmni peirianneg sifil BAM Nuttall wedi’i benodi i adeiladu’r llithrffordd a’r pontydd cychod newydd ar gyfer cychod gwaith.
Meddai Ian Hubbard, Cyfarwyddwr Rhanbarthol BAM ar gyfer De Lloegr a Chymru:
“Mae gan Borthladd Aberdaugleddau weledigaeth ar gyfer adfywio Doc Penfro ac mae BAM yn falch iawn o gyfrannu at hynny. Mae’r Porthladd mewn lleoliad delfrydol ar gyfer gwasanaethu ynni tonnau, llanw a gwynt a bydd y buddsoddiad diweddaraf hwn yn ein helpu i wella’r cyfleusterau sydd ar gael i’r diwydiant ynni adnewyddadwy ar y môr sydd yn tyfu ar hyn o bryd. Bydd BAM yn cyflogi cymysgedd o lafur lleol ac arbenigol i wneud y gwaith, felly bydd y contract hwn yn creu swyddi yn ardal Sir Benfro ynghyd â helpu i foderneiddio cyfleusterau’r porthladd.”