Mae Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi cymeradwyo achos busnes manwl ar gyfer prosiect Ardal Forol Doc Penfro gwerth £60 miliwn, a fydd bellach yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo'n derfynol.
Disgwylir y bydd Ardal Forol Doc Penfro, sydd dan arweiniad y sector preifat ac sy'n cael ei chefnogi gan Gyngor Sir Penfro, yn creu dros 1,800 o swyddi a bydd gwerth £73.5 miliwn y flwyddyn i economi Dinas-ranbarth Bae Abertawe.
Mae'r prosiect yn cynnwys pedair elfen:
- Ardal Profi Ynni'r Môr (META) dan arweiniad Ynni Môr Cymru o fewn Dyfrffordd Aberdaugleddau, sy'n galluogi datblygwyr technoleg i brofi eu dyfeisiau ger y brif ganolfan weithredu. Agorwyd cam un META yn swyddogol ym mis Medi 2019.
- Parth Arddangos Sir Benfro a ddarperir gan Wave Hub Limited er mwyn profi
technolegau ynni'r tonnau a'r gwynt ar raddfa fawr. Y cyfleuster 90 cilomedr sgwâr hwn, sydd wedi'i leoli 13 milltir oddi ar arfordir De Sir Benfro, fyddai'r cyfleuster mwyaf o'i fath yn y byd. - Canolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol (MEECE) a ddarperir gan ORE Catapult, arbenigwyr ynni gwynt morol, tonnau a llanw. Bydd ORE Catapult a phrifysgolion Cymru yn cydweithio ar y prosiect MEECE yn Noc Penfro er mwyn darparu gwybodaeth arbenigol ar gyfer y diwydiant ynni morol. Bydd MEECE hefyd yn cynnal profion o elfennau ynni morol i roi hwb i'w hirhoedledd.
- Bydd prosiect Seilwaith Doc Penfro, a arweinir gan Borthladd Aberdaugleddau, yn cynnwys ailddatblygu porth pedwar ym Mhorthladd Penfro er mwyn creu gwneuthuriad mawr ac ardaloedd gosod tir ar gyfer dyfeisiau ynni morol, gan helpu i fodloni anghenion diwydiant modern. Bydd llithrfa enfawr yn cael ei datblygu ochr yn ochr ag ymestyn y lle i symud llongau at ddefnydd cychod gwaith ynni morol er mwyn bodloni gofynion y diwydiant wrth iddo barhau i ddatblygu.
Mae prosiect Ardal Forol Doc Penfro yn ceisio £28 miliwn gan raglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd werth £1.3 biliwn, a fyddai'n helpu i sicrhau £32 miliwn pellach o gyllid preifat a chyhoeddus.
Dywedodd Andy Jones, Prif Weithredwr Porthladd Aberdaugleddau: "Mae'r iard longau yn Noc Penfro wastad wedi esblygu i fodloni anghenion y sector morol, gan fanteisio ar ein gweithlu medrus a'n hasedau sydd i'w cael yn naturiol i ysgogi mewnfuddsoddiad, cyrhaeddiad byd-eang a ffyniant economaidd.
"Mae ynni adnewyddadwy oddi ar yr arfordir bellach yn rhan o'r cyfuniad ynni prif ffrwd a bydd yn chwarae rhan hyd yn oed yn fwy wrth inni weithio tuag at ddatgarboneiddio erbyn 2050. Er mwyn i Sir Benfro a'r rhanbarth fanteisio, mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym rywbeth i'w gynnig a all ddarparu ar gyfer anghenion datblygwyr technoleg a'u cadwyn gyflenwi.
"Bydd Ardal Forol Doc Penfro, a ariennir drwy'r Fargen Ddinesig, yn ysgogi'r datblygiad nesaf hwnnw, gan helpu busnesau presennol i dyfu drwy gyfleusterau addas i'r diben ar y tir a'r môr, ynghyd â chymorth arbenigol i ddatrys problemau cyffredin er budd pawb.
"Ardal Forol Doc Penfro yw'r sylfaen y bydd y cynnig hwn yn cael ei adeiladu arno, ac rydym yn croesawu'r cymorth ar bob lefel i sicrhau bod y prosiect hwn yn cyrraedd y cam cymeradwyaeth derfynol."
Dywedodd y Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro: "Mae cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor o ran Ardal Forol Doc Penfro yn gam mawr ymlaen ar gyfer y prosiect, felly byddem yn annog i'r ddwy lywodraeth roi cymeradwyaeth derfynol cyn gynted ag y bo modd er mwyn i gyllid y Fargen Ddinesig gael ei ryddhau.
"Bydd y prosiect hwn yn creu swyddi o safon uchel i bobl leol, yn ogystal â bod yn fuddiol i fusnesau'r gadwyn gyflenwi leol a rhoi hwb i economi Sir Benfro a Dinas-ranbarth Bae Abertawe cyfan.
"Mae'n ddatganiad o fwriad wrth i ni geisio adeiladu ymhellach ar enw da'r sir o ran arloesi drwy drawsnewid Sir Benfro yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer y sector ynni morol.
Bydd y prosiect hwn yn cydweithio â rhai eraill yn y rhanbarth sydd i'w hariannu'n rhannol gan y Fargen Ddinesig er mwyn ysgogi hyd yn oed yn rhagor o fuddsoddiad, twf economaidd a chyfleoedd am swyddi sy'n talu'n dda."
Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae'r rhaglen fuddsoddi hon gwerth £1.8 biliwn i economi Dinas-ranbarth Bae Abertawe a bydd yn creu dros 9,000 o swyddi yn y rhanbarth yn y blynyddoedd i ddod.