Mae ein Rhaglen Seilwaith Digidol yn cynnal digwyddiad ar-lein cyffrous:Troedio'r Llwybr i Well Cysylltedd - Dydd Iau, 8 Mai 2025.
Pam y dylech chi ddod i'r digwyddiad?
Mae cael gwell band eang a gwella cysylltedd ein rhanbarth yn darparu mwy o gyfleoedd i bawb sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal ac yn ymweld â hi. Mae'r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i chi gael dealltwriaeth o sut mae'r Rhaglen Seilwaith Digidol yn helpu i newid y sefyllfa bresennol, trwy ei mentrau parhaus, a thrafod materion hanfodol â rhai o arbenigwyr telathrebu mwyaf blaenllaw'r DU.
Byddwch yn gallu gwylio'r sesiynau panel byw yn ogystal â chyflwyno eich cwestiynau, eich sylwadau a'ch barn i'r siaradwyr trwy'r ffrydio byw.
Agenda
Sylwadau Agoriadol:
09:30 – 09:45: Y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor
Y Prif Bynciau:
09:45 – 10:30: Mynd i'r afael â Chysylltedd Gwledig
10:30 – 11:15: Y Rhwydwaith Gwledig a Rennir – Beth Nesaf?
11:30 – 12:15: Asedau'r Sector Cyhoeddus - 4G/5G
12:15 – 13:00: Rhwydweithiau Di-wifr y Genhedlaeth Nesaf - Arloesi ar draws y Rhanbarth
Sesiwn y Prynhawn:
14:15 – 14:30: Agorir gan Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio.
14:30 – 15:15: Buddsoddi mewn Gwerth Cymdeithasol
15:15 – 16:00: Ysgogi Arbedion Effeithlonrwydd a Mewnfuddsoddi
Sylwadau i gloi:
16:00 – 16:15: Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
Ymunwch â'r Sgwrs: Gall unrhyw un ymuno â'r ffrwd fyw! Rydym yn croesawu eich cwestiynau a'ch sylwadau ynghylch pynciau trafod y panel.