Mrs Davies yw un o'r chwe arbenigwr o'r sector preifat sy'n aelodau o Fwrdd Strategaeth Economaidd y Fargen Ddinesig; Bwrdd sy'n rhoi cyngor arbenigol i'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau am y Fargen Ddinesig.
Gallu posibl y Fargen Ddinesig i wella cymunedau a bywydau pobl ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe wnaeth ei hysgogi i fod yn rhan o'r bwrlwm, meddai.
Mae swyddogaethau aelodau'r Bwrdd Strategaeth Economaidd - nad ydynt yn cael eu talu - yn cynnwys darparu cyfeiriad strategol ar gyfer y Fargen Ddinesig, adolygu achosion busnes prosiectau a gwneud argymhellion i Gyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig eu cymeradwyo.
Dywedodd Mrs Davies, a fagwyd ym Mhontardawe: “Yr hyn sy'n hynod gyffrous am y Fargen Ddinesig yw mai rhaglen fuddsoddi hirdymor yw hi, a fydd yn buddsoddi mewn nifer o brosiectau sylweddol iawn ar draws y rhanbarth.
“Ond yr hyn sydd o ddiddordeb arbennig i mi yw sut y bydd y Fargen Ddinesig yn effeithio ar gymunedau a dinasyddion y rhanbarth. Mae gan y Fargen Ddinesig y grym i greu cyfleoedd i bobl gael sgiliau a swyddi o safon, a fydd yn galluogi i'n cymunedau ffynnu.
“Mae hefyd yn hanfodol fod busnesau lleol a chadwyni cyflenwi lleol yn elwa ar y prosiectau hyn.”
Dros y blynyddoedd, mae Mrs Davies hefyd wedi gweithio yn y sectorau cyllid a gweithgynhyrchu.
Ond bellach, wedi gwasanaethu fel Prif Weithredwr Grŵp Pobl am dair blynedd, ei hangerdd dros dai sydd amlycaf.
“Mae creu llefydd gwych i fyw a darparu tai fforddiadwy yn bethau rwy'n teimlo'n angerddol iawn yn eu cylch," meddai Mrs Davies. “Ac mae prosiectau yn y Fargen Ddinesig a fydd yn creu mwy o dai fforddiadwy yn ein rhanbarth oherwydd yr atebion arbed ynni fydd yn rhan ohonynt. Mae hyn yn cynnwys y prosiect rhanbarthol, Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer, lle adeiladir cartrefi newydd sy'n effeithlon iawn o ran ynni - mae rhai ohonynt yn cael eu codi eisoes yng Nghastell-nedd.
“Ond mae'r prosiect hefyd yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o wneud cartrefi sy'n bodoli eisoes yn y rhanbarth yn fwy effeithlon drwy osod technolegau megis systemau ffotofoltäig ac atebion eraill. Bydd hyn yn gwneud ynni'n fwy fforddiadwy, ac yn helpu i gynyddu'r incwm gwario sydd gan deuluoedd.
“Bydd y prosiect hwn hefyd yn creu sgiliau, dysgu a swyddi seiliedig ar y sector ynni adnewyddadwy – sydd o bwys gwirioneddol i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe.”
Dan gadeiryddiaeth Ed Tomp – Rheolwr Gyfarwyddwr ac Is-lywydd Valero UK yn Sir Benfro - ymhlith aelodau sector preifat eraill y Bwrdd Strategaeth Economaidd y mae Cadeirydd y Scarlets, Nigel Short; Cadeirydd Gweithredol Industry Wales, James Davies; Cyfarwyddwr Ariannol Riversimple, Chris Foxall, a'r Oncolegydd Llawfeddygol Ymgynghorol, Simon Holt, sydd wedi ymddeol bellach.
Yn ôl Mrs. Davies: “Mae'r Fargen Ddinesig yn sbardun ar gyfer llawer mwy o fuddsoddi ar draws y rhanbarth, felly mae sicrhau bod hynny'n digwydd yn rhan allweddol o waith y Bwrdd Strategaeth Economaidd. Mae angen i ni sicrhau bod y buddsoddiad sydd ynghlwm wrth y Fargen Ddinesig o fudd i fusnesau lleol ac yn galluogi buddsoddiad ar raddfa llawer ehangach hefyd.”
Bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae'n cael ei harwain gan bedwar Awdurdod Lleol Dinas-ranbarth Bae Abertawe, y ddau fwrdd iechyd rhanbarthol, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Drwy ariannu'n rhannol 11 o brosiectau mawr yn Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe, rhagwelir bydd y Fargen Ddinesig werth £1.8 biliwn ac yn creu mwy na 9,000 o swyddi â chyflog da yn y Ddinas-ranbarth yn y blynyddoedd i ddod.