Ar ôl iddi gael ei chymeradwyo yng Nghyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i'w chymeradwyo'n derfynol.
Mae'r rhaglen hon ymhlith ystod o raglenni a phrosiectau mawr sy'n rhan o bortffolio'r Fargen Ddinesig gwerth £1.3 biliwn.
Bydd rhaglen seilwaith digidol y Fargen Ddinesig o fudd i breswylwyr a busnesau ym mhob rhan o'r Dinas-ranbarth, sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. Amcangyfrifir y bydd werth £318 miliwn i'r economi ranbarthol yn y 15 mlynedd nesaf.
Dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, bydd y rhaglen seilwaith digidol yn helpu i sicrhau bod gan ddinasoedd, trefi a pharciau busnes y rhanbarth fynediad cystadleuol at gysylltedd ffibr llawn. Bydd hyn yn helpu i baratoi'r ffordd er mwyn i'r rhanbarth elwa o arloesedd 5G a'r rhyngrwyd pethau, sy'n cynnwys cartrefi clyfar, gweithgynhyrchu clyfar, amaethyddiaeth glyfar a realiti rhithwir, yn ogystal â thechnoleg y gellir ei gwisgo a fydd yn cefnogi gofal iechyd, cymorth byw a sectorau eraill.
Bydd y rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar wella mynediad i fand eang yng nghymunedau gwledig y rhanbarth, gan ysgogi'r farchnad i greu cystadleuaeth rhwng darparwyr digidol er budd defnyddwyr.
Mae Lucy Cohen, cyd-sylfaenydd Mazuma, yn aelod o Fwrdd Strategaeth Economaidd sector preifat y Fargen Ddinesig.
Dywedodd: “Mae Mazuma, drwy gyfuniad o bobl a thechnoleg blaengar, yn darparu gwasanaethau cyfrifyddiaeth ar-lein i filoedd o ficrofusnesau ledled y DU.
“Fel cynifer o fusnesau, mae cysylltiadau digidol cryf yn hanfodol bwysig i Mazuma, o ran cyflymder ac effeithlonrwydd i’n cleientiaid, yn ogystal â'r gallu i gyfathrebu â'n cleientiaid ar unwaith p'un a ydynt yn byw yn y DU neu y tu hwnt.
“Mae technolegau a chysylltedd digidol wedi datblygu gymaint yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a does dim gwadu na fydd hynny'n parhau yn y dyfodol. Gan gofio hynny, mae'n hanfodol bod gan Ddinas-ranbarth Bae Abertawe y seilwaith digidol i gyd-fynd â'r datblygiadau hyn er budd busnesau presennol ac i helpu i ddenu mwy o fusnesau yn y dyfodol, a fydd yn arwain at greu swyddi i bobl leol.
“Bydd rhaglen seilwaith digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn gweithredu fel sbardun ar gyfer trawsnewid y Dinas-ranbarth yn gyrchfan hynod gysylltiedig i fusnesau a thrigolion, gan helpu i gadw talent leol wrth annog entrepreneuriaeth ac entrepreneuriaid."
Dywedodd y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae'n hanfodol bod gan Gastell-nedd Port Talbot fynediad i'r cysylltedd digidol gorau i gystadlu ag ardaloedd mwy cyfoethog y DU. Mae'r rhaglen hon felly yn gam enfawr i'r cyfeiriad cywir i'n preswylwyr a'n busnesau - ac i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe yn gyffredinol.
“Mae seilwaith digidol o ansawdd uchel a fydd yn diogelu'r Dinas-ranbarth yn y degawdau nesaf yn hanfodol i alluogi arloesedd a chefnogi menter, yn ogystal â helpu i ddenu mewnfuddsoddiad pellach a swyddi â chyflog da.
“Bydd y rhaglen hon hefyd yn cefnogi prosiectau'r Fargen Ddinesig sy’n cael eu harwain gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, sy’n cynnwys rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel o brosiectau a fydd yn datgarboneiddio ein heconomi fwyfwy wrth ddiogelu dyfodol y diwydiant dur a metelau.”
Dywedodd y Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro: “Bydd rhaglen seilwaith digidol ranbarthol Bargen Ddinesig Bae Abertawe o fudd i breswylwyr a busnesau ar draws y Dinas-ranbarth cyfan – gan gynnwys Sir Benfro – felly mae cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor i gyflwyno'r achos busnes i'r ddwy lywodraeth er mwyn ei gymeradwyo'n derfynol i'w groesawu'n fawr.
“Mae cysylltedd digidol yn sail i'r rhan fwyaf o agweddau ar fywyd bob dydd y dyddiau hyn, a bydd y rhaglen hon yn adeiladu ar yr holl waith yr ydym eisoes yn ei wneud yn Sir Benfro i wella cysylltedd yn y fan yma.
“Unwaith y bydd y rhaglen seilwaith digidol yn cael ei chymeradwyo'n derfynol, edrychwn ymlaen at weithio gyda'n partneriaid ar draws y Dinas-ranbarth i sicrhau bod gan ein trigolion a'n busnesau y cyfleoedd i gael mynediad at y cysylltedd o ansawdd sydd ei angen arnynt ac y maent yn ei haeddu.
“Wrth i alluoedd digidol a thechnolegau symudol barhau i ddatblygu, bydd seilwaith digidol o'r ansawdd gorau hefyd yn bwysig er mwyn sicrhau bod gan Sir Benfro a Dinas-ranbarth Bae Abertawe y sylfeini digidol ar waith i elwa o arloesi yn y dyfodol.”
Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.