Mae signal ffonau symudol ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe wedi gweld gwelliannau sylweddol, a hynny oherwydd y fenter Rhwydwaith Gwledig a Rennir (SRN).

Mae'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir, partneriaeth rhwng Llywodraeth y DU a Gweithredwyr Rhwydwaith Symudol (MNO), yn canolbwyntio ar wella cysylltedd ffonau symudol mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell. Nod y fenter yw sicrhau y gall cymunedau a busnesau yn y rhanbarthau hyn gael mynediad at wasanaethau ffonau symudol dibynadwy, gan bontio'r rhaniad digidol rhwng ardaloedd trefol a gwledig.

Mae'r data diweddaraf o adroddiad Ofcom, Connected Nations 2024, yn tynnu sylw at gynnydd sylweddol mewn ardaloedd sydd â signal ffonau symudol gan bob un o'r pedwar Gweithredwr Rhwydwaith Symudol (MNO) yn y DU.

Yn ôl yr adroddiad, Connected Nations 2024, mae signal ffonau symudol yn rhanbarth Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi gweld gwelliant amlwg. Yn Sir Benfro yn unig, mae'r signal wedi codi o 67% i 84%, sef cynnydd sy'n rhoi mwy o ddewis a gwerth i gwsmeriaid. Mae'r gwelliant yn cynrychioli 106 milltir sgwâr ychwanegol o signal 4G a chynnydd sylweddol o 97% i 99% o signal mewn rhai ardaloedd gan un Gweithredwr Rhwydwaith Symudol. Mae'r cynnydd hwn wedi lleihau'r ardaloedd heb signal yn y rhanbarth o 3% i ddim ond 1%.

Mae'r llwyddiant hwn yn cael ei adlewyrchu mewn rhannau eraill o'r rhanbarth, lle mae'r signal ffonau symudol wedi gwella yn yr un modd. Mae signal ffonau symudol gan bob un o'r pedwar Gweithredwr Rhwydwaith Symudol yn Sir Gaerfyrddin wedi gweld gwelliant amlwg o 66% i 76%. Mae hyn yn cyfateb i 91.5 milltir sgwâr arall o signal 4G, ac mae signal gan un Gweithredwr Rhwydwaith Symudol hefyd wedi gwella o 95% i 97%. Mae hyn yn lleihau'r ardaloedd yn y sir heb unrhyw signal o gwbl o 5% i ddim ond 3%.

Mae'r cyflawniad hwn yn tanlinellu effeithiolrwydd y Rhwydwaith Gwledig a Rennir ers ei gyflwyno ym mis Mehefin 2024 a thrwy gyflawni ei addewid i wella cysylltedd mewn rhannau gwledig o'r DU.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, sy'n cynrychioli Cyngor Sir Penfro "Mae hon yn garreg filltir bwysig i'n cymunedau gwledig, lle mae cysylltedd ffonau symudol dibynadwy wedi bod yn her yn aml. Mae gwell signal yn galluogi pobl i weithio, i fyw ac i ffynnu yn y byd digidol sydd ohoni, heb gael eu gadael ar ôl."

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans o Gyngor Sir Caerfyrddin "Rydym wrth ein bodd o weld effaith gadarnhaol y Rhwydwaith Gwledig a Rennir yn Sir Gaerfyrddin. Mae cynyddu'r signal ffonau symudol i 76% yn garreg filltir arwyddocaol a fydd o fudd i breswylwyr, i fusnesau ac i ymwelwyr fel ei gilydd. Mae'n dangos ein hymrwymiad i sicrhau nad yw cymunedau gwledig yn cael eu gadael ar ôl yn yr oes ddigidol."

Mae menter Rhwydwaith Gwledig a Rennir yn rhan o ymdrech ehangach i ddarparu signal ffonau symudol o ansawdd uchel ar draws 88% o dir y DU erbyn mis Mehefin 2024, gyda tharged o 90% erbyn mis Ionawr 2027. Bydd y cysylltedd gwell yn helpu i feithrin twf economaidd ac yn cefnogi busnesau lleol ar draws rhanbarth Bargen Ddinesig Bae Abertawe, lle mae seilwaith digidol yn hanfodol i breswylwyr ac i ddiwydiannau.

Fel rhan o'r fenter hon, mae Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn parhau i gefnogi ymdrechion y rhanbarth. Mae'r Hyrwyddwyr Digidol, a ariennir gan y rhaglen, wrthi'n gweithio gyda Gweithredwyr Rhwydwaith Symudol a'u partneriaid i sicrhau bod cymunedau gwledig ym mhob un o'r pedair sir yn derbyn y signal ffonau symudol sydd ei angen i gadw mewn cysylltiad ac sy'n gystadleuol yn yr oes ddigidol.