Mae prosiect StarBws, wedi’i lansio i archwilio sut y gellir defnyddio’r Orbit Daear Isel (LEO) diweddaraf a rhwydweithiau cellog ar y cyd i wella cysylltedd ar systemau trafnidiaeth mewn amgylcheddau cyfathrebu heriol, lle byddai rhwystrau fel canopïau coed a dyffrynnoedd fel arfer yn rhwystro'r signal.
Mae’r prosiect arloesol hwn yn cynnwys Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â chonsortiwm o bartneriaid a’i nod yw darparu rhyngrwyd cyflym, dibynadwy i deithwyr sy’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig. Bydd hyn yn galluogi teithwyr i gadw mewn cysylltiad trwy gydol eu taith, p'un a ydynt yn cydweithio â chydweithwyr trwy alwadau fideo neu'n mwynhau gweithgareddau hamdden fel ffrydio fideos a cherddoriaeth. Manteision nad yw teithwyr sy'n teithio yng nghefn gwlad fel ar arfer yn eu profi.
Bydd y cyfnod treialu yn canolbwyntio ar y gwasanaeth bws gwledig 460 Caerfyrddin i Aberteifi, sy’n mynd bedair gwaith y dydd ac yn cymryd 1 awr a 26 munud un ffordd. Bydd y prosiect, a ddechreuodd yn hydref 2024, yn cael ei gynnal am flwyddyn, gan ddarparu mewnwelediad gwerthfawr i anghenion teithwyr yn ogystal â'r potensial o ddarparu cysylltedd uwch mewn lleoliadau gwledig.
Dywedodd Simon Richards o gwmni'r Brodyr Richards: “Mae ein hannibyniaeth yn ein grymuso i arloesi ac addasu’n gyflym i anghenion ein teithwyr. Mae prosiect StarBws yn enghraifft o’n hymrwymiad i arloesi datrysiadau cysylltedd newydd, gan sicrhau bod ein llwybrau gwledig yn ddibynadwy ac yn cyd-fynd â'r gwasanaethau cyfathrebu modern diweddaraf. Mae’r fenter hon yn cadarnhau ein hymroddiad i wella trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, gan dangos manteision bod yn weithredwr ystwyth a blaengar.”
Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn llwyr gefnogi’r fenter hon ac yn edrych ymlaen at olrhain y cyfnod treialu, sy’n rhoi cyfle i archwilio sut y gellir defnyddio technolegau amrywiol i fynd i’r afael â heriau amser real a wynebir gan deithwyr sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig.
Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, “Mae’r prosiect hwn yn cynrychioli cynnydd sylweddol o ran arloesi, gan fynd i’r afael â her adnabyddus ym maes trafnidiaeth wledig. Yn ogystal â darparu manteision i ardaloedd gwledig, mae'r dechnoleg hon hefyd â photensial i wella cysylltedd ac effeithlonrwydd ar draws pob math o drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig ar deithiau hirach lle mae angen i gymudwyr allu parhau i weithio.”
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru,
“Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r prosiect arloesol a gwerth chweil hwn. Gall cysylltedd WiFi ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fod yn heriol. Bydd prosiect StarBws yn darparu ateb ar gyfer hynny, gan ganiatáu i bobl ddefnyddio eu dyfeisiau ar gyfer gwaith a hamdden, a sicrhau eu bod yn cadw mewn cysylltiad hyd yn oed pan fyddant yn teithio trwy gefn gwlad anghysbell."
Mae’r awydd i ddatblygu gwell cysylltedd i deithwyr sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy nag erioed, gyda llawer o gyflenwyr yn awyddus i weithio mewn partneriaeth â mentrau fel StarBws ac adeiladu ar y cynnydd sy’n cael ei wneud yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe yn ogystal â rhannau eraill o Gymru.
Os hoffech wybod mwy, anfonwch e-bost at: media@dragonwifi.wales