Swyddog Prosiect Graddedig yn Celtic Sea Power, partner darparu ym mhrosiect Ardal Forol Doc Penfro
Graddiodd Amelia o Brifysgol Abertawe gyda BEng mewn Peirianneg Sifil yn 2020 ac yna treuliodd flwyddyn yn gweithio ym maes dylunio peirianneg fel Peiriannydd Strwythurol mewn ymgynghoriaeth fach sy’n arbenigo mewn adeiladu domestig.
Yna penderfynodd Amelia ddychwelyd i’r brifysgol ac astudio ar gyfer MSc mewn Peirianneg Arfordirol ym Mhrifysgol Plymouth. Dri mis cyn graddio o’I gradd Meistr dechreuodd ei swydd raddedig yn Celtic Sea Power, lle ysgrifennodd ei thraethawd hir ar gyflenwad ynni adnewyddadwy hybrid i gymunedau’r ynys.
Prif nod ei swydd raddedig yw adeiladu model o’r holl ddefnydd o ynni yn yr ardal, a sut y gallai hyn newid yn y cyfnod cyn targedau Sero Net. Mae’n golygu siarad â diwydiannau fel porthladdoedd ac astudio eu defnydd a’u gweithrediadau ynni cyfredol.
Mae hi hefyd yn edrych ar sut mae cynhyrchu ynni yn debygol o newid a sut y gellir gwneud y mwyaf o adnoddau naturiol.
Mae Amelia yn gweithio tuag at fod yn beiriannydd siartredig yn Celtic Sea Power ac mae’n gobeithio y bydd ei rôl bresennol yn ei helpu i wneud hyn. Byddai hi wrth ei bodd yn gweld technolegau fel ynni’r tonnau a’r llanw yn dod yn fwy masnachol ac yn gobeithio y bydd hi’n gallu gweithio ar eu hintegreiddio nhw i’n system ynni. Ei nod hirdymor yw gweithio ar brosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach, gan bweru porthladdoedd neu ynysoedd bach.
Mae ymuno fel myfyriwr graddedig wedi rhoi cyfle I Amelia arwain ar brosiectau ac mae wedi cael profiad gwych mewn cwmni sydd mewn gwirionedd yn mynd i wneud gwahaniaeth yn y dyfodol.
Fy nghyngor i raddedigion sy’n chwilio am swydd i raddedigion fyddai ystyried arbenigo mewn pwnc os ydych chi’n bwriadu gwneud gradd Meistr – Roedd fy nghwrs i mewn Peirianneg Arfordirol! Defnyddiwch LinkedIn wrth chwilio am swydd gan nad oes gan lawer o gwmnïau gynlluniau i raddedigion ond byddant yn dal i gymryd graddedigion, ac os oes cwmni y mae gennych ddiddordeb ynddo, anfonwch e-bost atynt! Peidiwch â bod ofn gwneud cais am swyddi nad ydych chi’n credu eich bod chi’n gymwys ar eu cyfer!