Rheolwr Prosiect ym Mhorthladd Aberdaugleddau, partner cyflawni ym Mhrosiect Ardal Forol Doc Penfro
Ar ôl astudio cymwysterau Safon Uwch, ymunodd Claire â Phorthladd Aberdaugleddau fel prentis yn adran Ystadau Porthladd Aberdaugleddau, gan ofalu am bortffolio eiddo'r busnes. Ar ôl cwblhau prentisiaeth lwyddiannus, cynigiwyd swydd amser llawn iddi yn y Porthladd. Ar ôl hynny cwblhaodd Claire radd sylfaen wedi'i chyllido drwy waith mewn Rheoli Adeiladu yng Ngholeg Sir Benfro. Cwblhaodd y radd sylfaen gan weithio amser llawn, a llwyddo gyda rhagoriaeth. Ar ôl hynny, cwblhaodd BSc mewn Rheoli Adeiladu ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, lle enillodd Radd Dosbarth Cyntaf.
Mae Claire wedi symud ymlaen i gynorthwyo ac arwain rhai o brosiectau uchaf eu proffil y Porthladd, gan gynnwys Gwesty Tŷ Milford ar Lannau Aberdaugleddau ac, yn fwy diweddar, Gwaith Adnewyddu Anecsau'r Hangar, pontynau cychod gwaith a llithrfa yn rhan o brosiect Ardal Forol Doc Penfro.
Mae Claire hefyd yn rhan o banel SPARC Coleg Sir Benfro, a ariennir drwy raglen Sgiliau a Thalentau’r Fargen Ddinesig, a sefydlwyd i rymuso cynnydd merched a hyrwyddo amrywiaeth ryweddol yn y diwydiannau Ynni Cynaliadwy, Ynni Adnewyddadwy ac Adeiladu (SPARC).
"I mi mae’r Porthladd yn lle gwych i weithio, ac rwyf wedi mwynhau gweithio ar brosiect AFDP yn ofnadwy, yn gwella seilwaith y Porthladd. Does yr un diwrnod yr un peth â'r llall, ac mae fy rôl yn un heriol a chyffrous."
"Yr ymdeimlad yna o gyflawniad wrth ichi weld ardal nad oedd yn cael ei defnyddio o'r blaen yn cael ei thrawsnewid yn llwyr i fod yn ased ymarferol i'n cymuned a'n rhanddeiliaid. Fel person cymdeithasol, mae’r cyfle i weithio gydag amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol, cyflenwyr, rhanddeiliaid ac o fewn eich cymuned eich
hun yn rhoi boddhad aruthrol."