Prentis TGCh ym Mhorthladd Aberdaugleddau, partner darparu ym Mhrosiect Ardal Forol Doc Penfro
Ymunodd Craig, o Sanclêr, â’r Porthladd fel prentis ar raglen 2 flynedd ar ôl astudio yng Ngholeg Sir Benfro. Mae’n rhan o’r tîm Atebion Digidol sy’n darparu cymorth technegol ar galedwedd a meddalwedd i’r staff yn y porthladd ac yn aml ef yw’r pwynt cyswllt cyntaf I weithwyr.
Ymunodd Craig, o Sanclêr, â’r Porthladd fel prentis ar raglen 2 flynedd ar ôl astudio yng Ngholeg Sir Benfro. Mae’n rhan o’r tîm Atebion
Digidol sy’n darparu cymorth technegol ar galedwedd a meddalwedd i’r staff yn y porthladd ac yn aml ef yw’r pwynt cyswllt cyntaf i weithwyr.
Gwnaeth gais i fod yn brentis gan ei fod eisiau datblygu ei sgiliau a symud ymlaen yn ei yrfa mewn ffordd oedd yn golygu nad oedd yn gaeth i ystafell ddosbarth. Trwy wneud prentisiaeth, gall ddysgu yn y swydd, gan ddefnyddio ei wybodaeth a’i sgiliau yn ymarferol ac mae ei wybodaeth yn gwella mwy a mwy bob wythnos.
Mae Craig wedi canfod bod llawer o fanteision o wneud y brentisiaeth hon. Mae’n cael ei dalu wrth iddo barhau i ddysgu, er y fantais fwyaf yw ei fod yn ennill profiad, sy’n aml yn anodd ei gael wrth ddechrau gyrfa newydd fel oedolyn ifanc.
Ar hyn o bryd mae’n canolbwyntio ar gwblhau ei brentisiaeth gan barhau i wella ei sgiliau. Mae’n gobeithio aros ym Mhorthladd Aberdaugleddau unwaith y bydd wedi gorffen.
Dywedodd Vidette Swales, Cyfarwyddwr AD “Mae ysbrydoli a galluogi pobl ifanc lleol I ddilyn gyrfa yn y môr, ynni neu letygarwch a thwristiaeth yn nodau cymdeithasol allweddol i ni yn y Porthladd ac mae prentisiaethau yn un o’r ffyrdd y gallwn ni wneud hyn. Rydym yn awyddus i gynyddu cyfleoedd prentisiaeth yn y blynyddoedd i ddod.”