Prentis Trydanol yn 71/72 Ffordd y Brenin, Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau

Pan adawodd Seb yr ysgol, nid oedd yn siŵr beth oedd eisiau ei wneud, ond ar ôl gweithio gyda’i dad ar brosiectau adnewyddu tai, sylweddolodd ei fod yn hoffi gweithio ym maes adeiladu.

Pan adawodd Seb yr ysgol, nid oedd yn siŵr beth oedd eisiau ei wneud, ond ar ôl gweithio gyda’i dad ar brosiectau adnewyddu tai, sylweddolodd ei fod yn hoffi gweithio ym maes adeiladu.

Sicrhaodd Seb le ar raglen brentisiaeth y CMB yn 2022, fel rhan o’r ymgyrch i recriwtio prentisiaid lleol, sy’n rhan o ofynion recriwtio a hyfforddi wedi’u targedu Cyngor Abertawe a Bouygues UK ar gyfer contract adeiladu 71/72 Ffordd y Brenin gwerth £34m a ariennir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Ers hynny, mae CMB, is-gontractwr mecanyddol a thrydanol mawr yn Ne Cymru, wedi cofrestru Seb ar gyfer Lefel 2 Gosodiadau Trydanol yng Ngrŵp Castell-nedd Port Talbot ar gampws Afan, sy’n golygu ei fod yn y coleg un diwrnod yr wythnos ac mae’n treulio’r pedwar diwrnod arall yn gweithio ar ddatblygiad swyddfa newydd nodedig Ffordd y Brenin yng nghanol Abertawe.

Ar hyn o bryd mae’n gosod y sianel drydanol fewnol, a fydd yn cael ei chuddio o fewn y strwythur concrit ar draws dwy lefel islawr a phum llawr y datblygiad. Mae’r prosiect bellach yn cychwyn ar y cam nesaf ac mae’r gwaith a’r cynnwys gweladwy mewnol a’r weirio newydd ddechrau, bydd Seb nawr yn rhan o’r gwaith hwn. Bydd yn gosod y ceblau trwy’r sianeli y mae wedi’u gosod o’r blaen a bydd hyn yn ychwanegu dimensiwn newydd.

Dyma brofiad go iawn cyntaf Seb o safle adeiladu mawr ac mae wedi ennill gwell dealltwriaeth o gymhlethdodau’r gwaith adeiladu, yr iechyd a’r diogelwch sydd ei angen ar safle, ond yn bwysicach fyth, pa mor hanfodol yw ei rôl wrth edrych ar adeilad gorffenedig. Er bod ei dasg bresennol ar y safle sef gosod sianeli yn dasg feichus, ni fydd yn weladwy unwaith y bydd y prosiect yn cael ei drosglwyddo.

Bydd prentisiaeth Seb yn para 4 blynedd, ac ar ôl cwblhau’r prosiect hwn, bydd yn symud ymlaen I weithio ar brosiect CMBE arall nes y bydd yn cael cymeradwyaeth gan y darparwr hyfforddiant JTL.