Mae tenant arall wedi'i gyhoeddi ar gyfer datblygiad swyddfeydd newydd mawr yng nghanol dinas Abertawe sydd bellach ar agor yn swyddogol.
Mae'r cwmni ariannol Futures First wedi'i gadarnhau ar gyfer cynllun 71/72 Ffordd y Brenin a fydd yn darparu lle ar gyfer hyd at 600 o swyddi.
Mae hyn yn dilyn y cyhoeddiad yn gynharach eleni fod y darparwr gweithle hyblyg IWG a'r cwmni teithio a hamdden TUI hefyd yn denantiaid yr adeilad.
Mae'r cynllun 104,000 troedfedd sgwâr sy'n cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
Bydd Futures First yn llenwi dros 4,300 troedfedd sgwâr yn y datblygiad.
Bydd gwaith gosod yn digwydd yn y datblygiad cyn i'r staff symud i mewn.
Mae trafodaethau uwch ar gyfer yr holl le sy'n weddill yn y cynllun hefyd yn parhau.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae Abertawe wedi dioddef o ddiffyg swyddfeydd o ansawdd uchel yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a oedd wedi arwain at risg y bydd busnesau a swyddi lleol yn symud neu'n cael eu sefydlu yn rhywle arall.
"Bydd datblygiad 71/72 Ffordd y Brenin yn helpu i atal hynny rhag digwydd, wrth roi cyfle i fusnesau yno gydweithio, rhwydweithio, tyfu a chreu hyd yn oed mwy o swyddi i bobl leol.
"Rydym yn falch iawn o fod wedi sicrhau tenant arall ar gyfer yr adeilad wrth i drafodaethau manwl barhau â chwmnïau eraill ar gyfer y lleoedd sy'n weddill yn yr adeilad."
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydyn ni'n gwybod bod pobl leol am gael rhagor o siopau a chanol y ddinas fwy ffyniannus, ond ni all hyn ddigwydd os nad oes digon o ymwelwyr yno i ddenu'r mathau hynny o fusnesau, o ystyried heriau siopa ar-lein.
"Bydd datblygiad 71/72 Ffordd y Brenin yn cyfuno â llawer o gynlluniau eraill sydd naill ai wedi'u cwblhau, yn cael eu hadeiladu neu wedi'u cynllunio i gael miloedd yn fwy o bobl i weithio a byw yng nghanol y ddinas, gan helpu i gefnogi ein masnachwyr presennol wrth annog eraill i sefydlu busnesau yno yn y dyfodol.
"Mae'r cynllun yn rhan o raglen adfywio gwerth dros £1bn sy'n datblygu i greu canol dinas modern, bywiog sy'n diwallu anghenion ac yn bodloni dyheadau pobl leol."
Meddai'r Fonesig Nia Griffith, Gweinidog Swyddfa Cymru, "Mae'n newyddion gwych mai Futures First fydd y tenantiaid diweddaraf yn swyddfa nodedig 71/72 Ffordd y Brenin Abertawe.
"Mae buddsoddiad llywodraeth y DU yn y cyfleusterau newydd hyn, ynghyd â'n partneriaid, yn arwain at dwf economaidd ac yn creu swyddi a chyfleoedd i bobl leol, gan gyflawni ein cynllun ar gyfer newid."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant: "Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn parhau i ddarparu cefnogaeth bwysig i ganol trefi a dinasoedd ledled Cymru. Ers 2020, rydym wedi darparu £91m ar gyfer prosiectau adfywio yn Abertawe yn unig. Bydd cynllun Kingsway 71/72 yn darparu llety swyddfa o ansawdd uchel yn y ddinas ac mae wedi denu tenantiaid pwysig fel Futures First, IWG a Tui, a fydd yn ei dro yn creu swyddi ac yn rhoi bywyd newydd i'r ddinas."
Meddai Ryan Orton, Uwch Is-lywydd yn Future First, "Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o ddatblygiad 71/72 Ffordd y Brenin. Mae'r cyfleuster hwn o'r radd flaenaf yn gyson â'n hymroddiad i arloesedd, ac yn cynrychioli dyfodol busnes yn Abertawe.
"Bydd isadeiledd modern yr adeilad a'i leoliad dethol yn gwella cynhyrchiant ein tîm yn sylweddol wrth ddarparu gweithle cydweithredol a fydd yn rhoi hwb i'n gweithrediadau.
"Mae datblygiadau fel hyn yn dangos enw da cynyddol Abertawe fel hwb ar gyfer busnesau blaengar, ac rydym yn gyffrous i dyfu ochr yn ochr â'r ddinas ddeinamig hon wrth gyfrannu at ei thwf economaidd."
Mae cynllun 71/72 Ffordd y Brenin yn cynnwys lle ar gyfer swyddfeydd a mannau gwaith a rennir, ochr yn ochr â neuadd ddigwyddiadau a lleoedd i fusnesau bwyd a diod.
Mae hefyd yn cynnwys teras gwyrdd ar y to sydd â golygfeydd dros Fae Abertawe, ynghyd â phaneli solar ar ben yr adeilad a systemau adfer gwres i leihau'r defnydd o ynni.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â'r asiantaethau gosod eiddo ar y cyd, JLL ac Avison Young.