Wedi'i gynnal gan Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae'r digwyddiad wedi cael ei ganmol fel llwyddiant ysgubol, gan dynnu sylw at botensial trawsnewidiol seilwaith digidol yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn stadiwm Parc y Scarlets, Llanelli, yn ogystal â chael ei ffrydio'n fyw ar-lein, gan ddwyn ynghyd arweinwyr y diwydiant, llunwyr polisi a rhanddeiliaid i drafod y datblygiadau sydd ar waith ym maes cysylltedd digidol ac arloesedd, ynghyd â'r heriau a’r cyfleoedd niferus sy'n bosibl drwy gael gwell cysylltedd.
Yn ogystal â'r trafodaethau craff niferus trwy gydol y dydd, rhoddwyd trosolwg cynhwysfawr o'r rhaglen, sy'n cael ei chyflwyno'n llawn ar draws y tair ffrwd waith, gan dynnu sylw at ei rôl hanfodol wrth yrru twf economaidd a chynhwysiant cymdeithasol ar draws y rhanbarth.
Bu arbenigwyr yn trafod pynciau fel cyflwyno 5G, cysylltedd gwledig, ac integreiddio technolegau Rhyngrwyd Pethau, gan gynnig mewnwelediadau gwerthfawr ac atebion ymarferol i gryfhau ecosystem ddigidol y rhanbarth ymhellach.
Dywedodd Rhys Jones o Arwain DGC "Mae bod yn rhan o'r digwyddiad hwn wedi bod yn bwysig ar gyfer cael mewnwelediadau i'r heriau sy'n wynebu gwelliannau mewn cysylltedd rhwydwaith ar draws y rhanbarth hwn. Yn ogystal, mae'r 'edau euraidd' a fynegwyd gan bawb a gymerodd ran yn arwydd o'r dull rhagweithiol a gymerir gan y Rhaglen Seilwaith Digidol, sef cydweithio er mwyn llwyddo. Yn bersonol, roedd gallu rhannu a thrafod lefelau arloesedd ar ffermydd Cymru, gobeithio, wedi ysbrydoli pawb yn ystafell y gynhadledd ac ar-lein."
Rhannodd ffigurau amlwg o'r sectorau digidol a thechnoleg eu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, gan bwysleisio pwysigrwydd seilwaith digidol cadarn wrth feithrin arloesedd a chystadleugarwch.
Dywedodd Richard Williams, Pennaeth Caffael gyda Ontix "Rydym yn gwybod bod cysylltedd digidol wedi newid ein byd yn sylfaenol am byth, ond er mwyn sicrhau ein bod yn gallu manteisio i’r eithaf ar ei botensial i wella bywydau pobl go iawn, mae angen creadigrwydd, meddwl gweledigaethol ac arweinyddiaeth gref. Mae’r gwaith gwych y mae rhanbarth Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn ei wneud i gofleidio a rhyddhau’r cyfleoedd a ddaw gyda gwell cysylltedd i Dde-orllewin Cymru yn dangos yr holl rinweddau hynny, ac mae Ontix yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio â chydweithwyr i helpu i ddarparu cysylltedd 4G a 5G gwell ar draws yr ardal."
Daw llwyddiant y rhaglen o ganlyniad i’r cydweithrediad rhwng awdurdodau lleol, partneriaid diwydiant, a'r gymuned i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu tirwedd ddigidol glyfar, gynhwysol ac arloesol.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe "Mae llwyddiant ysgubol y digwyddiad yn tanlinellu rôl hollbwysig seilwaith digidol yn ein dyfodol, ac fel rhanbarth rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn elwa o’r datblygiadau hyn. Nid technoleg yn unig yw’r rhaglen seilwaith digidol – mae’n ymwneud â chreu cyfleoedd a gwella bywydau. Amlygodd y digwyddiad y cynnydd anhygoel rydym wedi’i wneud hyd yma, yn ogystal â’r gwaith cydweithredol parhaus sydd ei angen i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd cyffrous sydd o’n blaenau."