Mae un ar ddeg o fusnesau uchelgeisiol yn Ne Cymru sy'n targedu llwyddiant ym marchnad gwynt ar y môr y DU wedi'u dewis ar gyfer rhaglen gymorth arobryn Addas ar gyfer Ynni Adnewyddadwy ar y Môr (F4OR).

Caiff F4OR ei gyflwyno gan Offshore Renewable Energy (ORE) Catapult, sy'n bartner cyflawni ym mhrosiect Ardal Forol Doc Penfro Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae'n agored i gwmnïau sydd â'u bryd ar fod yn rhan o'r sector ynni adnewyddadwy ar y môr, ar gynyddu'u presenoldeb yn y diwydiant, neu ar wneud y trawsnewidiad i ynni adnewyddadwy o sectorau fel olew a nwy.

Dyma'r drydedd raglen F4OR yng Nghymru a bydd yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar fusnesau yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe. Mae'r cymorth yn cael ei ariannu'n gyfartal gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe y Rhaglen Sgiliau a Thalentau ac Ystâd y Goron.  

Mae'r rhaglen Sgiliau a Thalentau yn rhan o bortffolio ehangach Bargen Ddinesig Bae Abertawe a bydd yn denu £30 miliwn gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Gan gwmpasu De-orllewin Cymru, nod y Rhaglen yw darparu 2,200 o gyfleoedd sgiliau ychwanegol a 14,000 o gyfleoedd uwchsgilio, a chreu o leiaf 3,000 o leoliadau prentisiaeth newydd yn ystod y degawd nesaf. Bydd y rhain i gyd yn cael eu darparu drwy gydweithio rhwng ysgolion, colegau, prifysgolion, darparwyr hyfforddiant a busnesau yn rhanbarth de-orllewin Cymru. I ddysgu rhagor am y rhaglen Sgiliau a Thalentau (DOLEN).

Dywedodd Dr. Davood Sabaei, Rheolwr Rhaglen F4OR yn ORE Catapult, "Wrth i ni geisio tyfu ac ehangu cyflwyno ffermydd gwynt ar y môr yn y blynyddoedd i ddod, mae'n hanfodol ein bod yn helpu busnesau'r DU i ddatblygu'r cyfleoedd i fanteisio ar y potensial economaidd y gall hyn ei gynnig.

“Mae ein partneriaeth ag Ystâd y Goron a Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn golygu ein bod mewn man delfrydol i gynnig cyfle i gwmnïau talentog ac uchelgeisiol fod yn rhan o gadwyn gyflenwi'r DU, sydd o'r safon orau. Bydd cwblhau'r rhaglen F4OR yn llwyddiannus yn rhoi i'r busnesau hyn y cyfuniad cywir o sgiliau, arbenigedd ac arweinyddiaeth i fanteisio ar gyfleoedd gwych i gael busnes, gan helpu i greu swyddi a rhoi hwb i fudd economaidd yn y rhanbarth.”

Disgwylir i'r Môr Celtaidd chwarae rhan allweddol yn nhaith y DU tuag at Sero Net, gyda'r bwriad o ddarparu hyd at 4.5GW o ffermydd gwynt arnofiol ar y môr drwy Gylch 5 Prydlesu Ffermydd Gwynt ar y Môr Ystâd y Goron. Gallai'r cylch hwn gefnogi creu 5,300 o swyddi newydd a rhoi hwb o £1.4 biliwn i economi'r DU.

Meddai Rebecca Williams, Cyfarwyddwr Cenhedloedd Datganoledig Ystâd y Goron: "Mae'n wych gweithio mewn partneriaeth ag ORE Catapult a Bargen Ddinesig Bae Abertawe i gefnogi'r busnesau uchelgeisiol hyn ledled De Cymru. Mae disgwyl i'r Môr Celtaidd gael rhan hanfodol ym mharhad stori gyffrous ffermydd gwynt ar y môr y DU, ac rydyn ni'n awyddus i weld y busnesau hyn yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd niferus sy'n perthyn i ddefnyddio technoleg gwynt arnofiol ar y môr – gan gefnogi swyddi, sgiliau a chadwyn gyflenwi ffyniannus yng Nghymru.”

Jane Lewis, Rheolwr y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol: "Mae hwn yn amser cyffrous i fusnesau ar draws y rhanbarth, wrth iddyn nhw baratoi at gyfnod o gyfleoedd newydd. Trwy feithrin sgiliau newydd a gweithlu sy'n barod am y dyfodol, gall cwmnïau lleol chwarae rhan ganolog wrth lunio tirwedd ynni gwyrdd a sicrhau bod De Cymru yn cael ei gydnabod yn ardal o drawsnewid diwydiant.”

 

Cwmni F4OR Cymru

Busnes

Lleoliad

Wal Colmonoy Ltd

Cwmni arbenigol sy'n cynhyrchu cydrannau peirianneg a datrysiadau technolegol ar gyfer y diwydiannau awyrofod, ynni a thrafnidiaeth.

Pontardawe, Abertawe

R-TECH Materials

Cwmni ymgynghori arbenigol sy'n profi deunyddiau, gwneud profion dadansoddol, dadansoddi methiant a darparu gwasanaethau cymorth metelegol

Port Talbot

Gemmak Engineering Ltd

Cwmni peirianneg sy'n arbenigo mewn dylunio, saernïo, gweithgynhyrchu ac ardystio metelau

Llansamlet, Abertawe

MII Engineering Ltd

Cwmni peirianneg fecanyddol a thrydanol sy'n arbenigo mewn gosod, cynnal a chadw ac atgyweirio peiriannau a gwaith dur cysylltiedig

Bedwas, Caerffili

King Site Services (South West) Ltd

Cwmni peirianneg sy'n darparu gwasanaethau peirianneg a datrysiadau prosiect

 sy'n cynnwys elfennau mecanyddol, strwythurol, gwaith gweithdy a weldio ar y safle.

Port Talbot

Fluid Power Solutions (Wales) Limited

Darparwyr datrysiadau a chydrannau peirianneg pŵer hylif niwmatig / hydrolig pwrpasol

Port Talbot

RDM Electrical Services Limited t/a RDM Electrical and Mechanical Services Limited

Darparwr gwasanaethau trydanol, mecanyddol a chynnal a chadw, gan gynnwys gwaith gosod, dylunio pwrpasol a phrofi ac arolygu

Abertawe

Tarmac Trading Limited

Cyflenwr deunyddiau adeiladu a datrysiadau cynaliadwy, gan gynnwys agregau, asffalt, concrit, a gwasanaethau contractio.

Port Talbot

Llanelec Precision Engineering Company Limited

Cwmni arbenigol sy'n darparu peiriannu manwl yn rhyngwladol ar gyfer cydrannau cerbydau milwrol

Castell-nedd

Davies Crane Hire Limited

Cwmni llogi craeniau annibynnol, sy'n arbenigo mewn craeniau symudol, araf, a phob tirwedd.

Port Talbot

Darlow Lloyd & Sons Ltd

Arbenigwyr mewn rheoli gwastraff diwydiannol ac ailgylchu asedau

Pen-y-bont ar Ogwr