Bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru Llywodraeth y DU, Jo Stevens AS, yn ymweld â Chanolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol Prifysgol Abertawe (SUSIM) i gael cipolwg personol ar waith arloesol y Sefydliad Cenedlaethol dros Chwaraeon ac Iechyd (NISH).

Amlygodd yr ymweliad sut mae technolegau efelychu ac ymdrochol yn cyfuno technoleg chwaraeon ac iechyd i wella perfformiad athletaidd, adsefydlu a lles y cyhoedd.

Mae NISH, a gefnogir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, GIG Cymru a Phrifysgol Abertawe, yn rhwydwaith cydweithredol unigryw sy'n uno'r byd academaidd, darparwyr gofal iechyd, cwmnïau technoleg a sefydliadau chwaraeon elît. Mae'n cynnig lleoedd addasadwy, rhaglenni cymorth arbenigol a digwyddiadau sydd â'r nod o feithrin arloesi a sbarduno twf technoleg chwaraeon ac iechyd yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe a'r tu hwnt.

Yn ystod yr ymweliad, gwelodd Ms Stevens arddangosiadau rhyngweithiol a ddefnyddiodd efelychiadau ymdrochol SUSIM. Roedd y rhain yn cynnwys senarios hyfforddi sy'n agos at realiti â'r nod o atal anafiadau, rhaglenni adsefydlu rhyngweithiol a phrotocolau gwella perfformiad sy'n cyfuno deallusrwydd artiffisial, olrhain symudiad a realiti rhithwir.

Pwysleisiodd yr ymweliad uchelgais NISH i ddod â chwmnïau technoleg chwaraeon, arloeswyr technoleg feddygol, timau clinigol, ymchwilwyr o safon fyd-eang a sefydliadau chwaraeon ynghyd - gan greu ecosystem sy'n ysgogi twf economaidd ac yn gwella canlyniadau iechyd ar draws y rhanbarth.

Meddai Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: "Mae gan brifysgolion Cymru enw gwych am gynhyrchu ymchwil â manteision masnachol, gan dyfu ein heconomi a chreu swyddi â chyflogau uchel sy'n gofyn am lefel uchel o sgiliau.

"Mae'r gwaith sy'n torri tir newydd ym meysydd chwaraeon ac iechyd ym Mhrifysgol Abertawe yn neilltuol ac rwyf wrth fy modd bod buddsoddiad Llywodraeth y DU ym Margen Ddinesig Bae Abertawe yn helpu i adeiladu rhwydwaith i gyflawni'r arloesi hynny."

Dywedodd yr Athro Charlotte Rees, Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe: "Rydyn ni wrth ein boddau'n croesawu'r Ysgrifennydd Gwladol a dangos sut mae efelychu ymdrochol yn trawsnewid technolegau chwaraeon ac iechyd. Ein gweledigaeth yw cysylltu'r meddylwyr mwyaf disglair ym meysydd technoleg, academaidd, iechyd a chwaraeon - gan chwalu rhwystrau a chyd-greu atebion sy'n gwella perfformiad athletaidd ac yn cefnogi lles gydol oes. Mae'r ymweliad hwn yn atgyfnerthu ein rôl fel canolbwynt blaenllaw ar gyfer arloesi yng Nghymru a'r tu hwnt."

Mae SUSIM, gyda'i hystafelloedd efelychu a'i hamgylcheddau ymdrochol y buddsoddwyd £7 miliwn ynddynt, yn darparu amgylchedd dynamig i staff y GIG, ymarferwyr a thechnolegwyr chwaraeon greu prototeipiau o ddatblygiadau arloesol a'u profi mewn cyd-destunau realistig. O glinigau adsefydlu rhithwir i senarios meddygol ochr y cae wedi'u hefelychu, mae'r cyfleuster yn hwyluso arbrofi a chydweithredu traws-sector cynnar.

Fel cydweithrediad, mae NISH yn dod â ffigyrau blaenllaw ynghyd o chwaraeon elît, gofal iechyd, addysg a thechnoleg i greu ecosystem a ysgogir gan arloesi. Drwy gysylltu'r sectorau allweddol hyn, mae'r Sefydliad yn cyflymu datblygiad atebion arloesol mewn meysydd megis gwella perfformiad, adsefydlu ar ôl anafiadau ac iechyd cymunedol. Drwy ei phartneriaethau ac arbenigedd a rennir, mae'r rhaglen yn llywio dyfodol technolegau chwaraeon ac iechyd, gan sbarduno twf economaidd a chanlyniadau iechyd cadarnhaol ledled Cymru a'r DU.