Polisi Preifatrwydd
Polisi Preifatrwydd
Datganiad Preifatrwydd
Mae sicrhau bod tim Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran cyflawni ein prosiectau a chadw hyder y cyhoedd.
Data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson, y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' drwy'r hysbysiad preifatrwydd hwn a'r un yw eu hystyr.
Er mwyn sicrhau bod tim Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion y Ddeddfwriaeth Diogelu Data.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn felly wedi cael ei greu er mwyn esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.
Diben defnyddio eich data
Mae tim Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn defnyddio data personol ar gyfer ystod gyfyngedig o ddibenion:
- Eich cyfeirio at aelodau tîm a sefydliadau partner
- Marchnata drwy e-bost - Optio i mewn yn unig
Efallai y byddwn yn defnyddio'ch data personol pan fyddwch yn gwneud ymholiadau ag aelodau o'n tîm, a gellir defnyddio amrywiol sianeli i ddilyn hyn, er enghraifft:
Ffôn, e-bost, Linkedin, E-lythyr newyddion
Efallai y byddwch hefyd yn cydsynio i fod yn rhan o ffilmio a ffotograffiaeth sy'n hyrwyddo'r Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn ymarfer ein his-bwerau o dan Adran 111 o'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Pa fath o wybodaeth rydym yn ei defnyddio?
Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch i'ch helpu i gael cymorth pellach gan dîm y rhaglen neu os oes angen ymateb i ymholiad:
- Enw a ail enw
- E-bost
- Rhif ffôn cyswllt (os oes angen)
A ydym yn defnyddio gwybodaeth o ffynonellau eraill?
I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu data personol yn uniongyrchol wrthych chi yn unig ac nid ydym yn cael gwybodaeth amdanoch o unrhyw ffynhonnell arall.
Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu eich gwybodaeth. Caiff y data personol hwn ei gadw ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE lle mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn berthnasol.
Oni bai am ddelweddau sydd wedi'u cynnwys mewn cyhoeddiadau a fformatau digidol, ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Pwy sydd â mynediad i'ch gwybodaeth?
Rydym yn rhannu'ch gwybodaeth â'r isod, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Darperir cyn lleied o ddata personol ag sydd ei angen a dim ond lle mae'n angenrheidiol gwneud hynny.
- Y gwasanaethau perthnasol o fewn y portfolio neu'r awdurdod lleol perthnasol, bwrdd iechyd neu brifysgol yr ydych yn cysylltu â ni amdano.
- Partneriaid a chyflenwyr y rhaglen sydd â'r caniatâd cywir ar waith i wneud hynny.
Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:
- Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y rhaglen neu'r awdurdod lleol perthnasol yn rhoi'r wybodaeth.
- Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd.
- Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw.
Pa mor hir byddwn yn cadw'ch gwybodaeth?
Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth wrth i chi weithio gyda ni ac am 2 flynedd ar ôl eich cyswllt diwethaf â ni, yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.
Eich hawliau diogelu data
Mae gennych yr hawl i:
- Cael mynediad i'r data personol y mae'r Fargen Ddinesig Bae Abertawe yn ei brosesu amdanoch.
- Cywiro unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn.
- Tynnu eich caniatâd yn ôl o ran prosesu'r wybodaeth, os mai hwn yw'r unig sail i brosesu'r wybodaeth.
- Gwneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau gwybodaeth.
Mewn rhai amgylchiadau, mae'n bosibl y bydd gennych yr hawl i:
- Gwrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu.
- Dileu eich data personol.
- Cyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.
- Trosglwyddo data.
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
E-bost: diogeludata@sirgar.gov.uk
Gellir cael manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghyd â chyfarwyddyd pellach ynghylch y Ddeddfwriaeth Diogelu Data ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.