71/72 Ffordd Y Brenin
![Kingsway internal](/media/npuhiugu/kingsway-pic-oct-2023.jpg)
Wedi'i ddatblygu gan Gyngor Abertawe, mae'r cynllun yn 71/72 Ffordd y Brenin yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi mewn sectorau sy’n cynnwys y sector technoleg a’r sector digidol.
Bydd y cynllun werth £32.6m y flwyddyn i economi Abertawe.
Wedi'i osod dros saith llawr, mae'r cynllun 104,000 troedfedd sgwâr yn cynnwys swyddfeydd a mannau gwaith a rennir, ynghyd â neuadd ddigwyddiadau a mannau ar gyfer busnesau bwyd a diod.
Wedi'i ddylunio gan Architecture 00, mae'n cynnwys teras gwyrdd ar y to gyda golygfeydd dros Fae Abertawe, paneli solar ar ben yr adeilad a systemau adfer gwres i leihau'r defnydd o ynni.
Mae'r datblygiad hefyd yn cynnwys 69 o leoedd cadw beiciau a mannau i wefru beiciau trydan, yn ogystal â chyfleusterau cawod a newid helaeth a chysylltiad newydd rhwng Ffordd y Brenin a Heol Rhydychen.
Mae'r cynllun yn cael ei ariannu'n rhannol gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.
JLL and Avison Young penodi fel Asiantau Gosod a Marchnata ar y cyd ar gyfer 71/72 Kingsway.