Swansea Arena
Arena Abertawe

Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe

Wedi'i datblygu gan Gyngor Abertawe, mae Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe yn arena dan do â lle i 3,500 o bobl sy'n rhan bwysig o ddatblygiad cam un y Bae Copr gwerth £135m yng nghanol dinas Abertawe.

Wedi'i weithredu gan Ambassador Theatre Group (ATG), agorodd yr arena yn swyddogol ym mis Mawrth 2022.

Mwynhaodd dros 241,000 o bobl ddigwyddiadau, cynadleddau, arddangosfeydd, gwleddoedd, seremonïau graddio a digwyddiadau dysgu creadigol yn y lleoliad hyd at fis Mawrth 2023.

Mae'r sêr sydd wedi camu i'r llwyfan yn yr arena yn cynnwys Jack Whitehall, Russell Howard, The Hollywood Vampires, Nothing But Thieves, Alice Cooper, Busted, Rhod Gilbert, Gladys Knight, a llawer o artistiaid mawr eraill.

Gellir llogi'r arena ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau ac mae wedi cynnal y canlynol: Comic and Gaming Convention, cynadleddau Economi Werdd a Chanol y Ddinas, cynhadledd Ynni Môr Cymru, Fforwm Tech ATG a dathliadau Diwrnod Beaujolais Clwb Busnes Bae Abertawe.

Mae'r arena hefyd wedi cael ei defnyddio gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fel lleoliad ar gyfer seremonïau graddio'r myfyrwyr.