Innovation Matrix and Innovation Precinct

Mae'r Matrics Arloesi yn adeilad ac eco-system o'r radd flaenaf sy'n canolbwyntio ar arloesi digidol, a weithredir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng nghanol Ardal Arloesi SA1 Abertawe.

Mae'r Matrics Arloesi yn cynnig cyfle unigryw i gysylltu â chymuned arloesi fywiog o fusnesau cymunedol newydd, busnesau ac ymchwilwyr. Mae'n darparu mynediad i gyfleusterau blaengar sydd wedi'u lleoli yn adeiladau'r campws cyfagos, a chymorth technegol arbenigol i helpu i gyflymu datblygu cynnyrch newydd a thyfu menter.

Ar hyn o bryd mae'r model cyflawni ar gyfer y Ganolfan Arloesi yn cael ei adolygu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chyngor Abertawe i sicrhau bod unrhyw newidiadau arfaethedig/posibl yn cyd-fynd â gofynion cyfredol y farchnad.

Darllenwch ragor am Matrics Arloesi