Ardal Forol Doc Penfro
Bydd rhaglen Ardal Forol Doc Penfro gwerth £60 miliwn yn sicrhau bod Sir Benfro wrth wraidd arloesedd byd-eang ym maes ynni morol di-garbon gan helpu hefyd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Bydd Ardal Forol Doc Penfro yn darparu'r cyfleusterau, y gwasanaethau a'r lleoedd sydd eu hangen i sefydlu canolfan o'r radd flaenaf ar gyfer peirianneg forol. Mae Ardal Forol Doc Penfro, a arweinir gan y sector preifat ac a gefnogir gan Gyngor Sir Penfro, yn cynnwys pedair elfen:
- Canolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol
Cyflwynir gan: Catapwlt Ynni Adnewyddadwy oddi ar yr Arfordir
Y Pwrpas: Cymorth ymchwil, datblygu ac arddangos, ysgogi arloesedd yn y gadwyn gyflenwi a lleihau cost ynni. - Datblygiadau Porthladd Penfro
Cyflwynir gan: Porthladd Aberdaugleddau
Y Pwrpas: Creu mannau sy'n helpu diwydiant i saernïo, lansio a chynnal dyfeisiau. - Ardal Profi Ynni'r Môr
Cyflwynir gan: Ynni Môr Cymru
Y Pwrpas: Hwyluso profion cydrannau, isgydosodiadau a dyfeisiau drwy feysydd profi a ganiatawyd ymlaen llaw er mwyn lleihau'r amser, y gost a'r risgiau a wynebir a chyflymu twf yn y sector. - Parth Arddangos Sir Benfro
Cyflwynir gan: Wave Hub Development Services Ltd
Y Pwrpas: Galluogi seilwaith adnewyddadwy oddi ar yr arfordir i ysgogi cyfleoedd gwynt ac ynni morol ar y Môr Celtaidd.
Disgwylir i'r rhaglen gynhyrchu £73.5 miliwn y flwyddyn i'r economi ranbarthol.
“Yn ogystal â chefnogi prosiectau eraill ar draws diwydiannau'r economi las, bydd Ardal Forol Doc Penfro yn creu’r amodau cywir i ddiwydiant ynni'r môr ffynnu wrth i'r DU symud tuag at dargedau datgarboneiddio sero net.
Bydd ymgyrch Ardal Forol Doc Penfro i gynyddu arloesi ac effeithlonrwydd gweithredol i’r eithaf yn ceisio lleihau cost ynni'r môr, gan fod yn rhaglen sylfaenol a fydd yn cefnogi twf mentrau newydd yn y rhanbarth.
Yn ogystal â Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae Ardal Forol Doc Penfro yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.