Pembroke Port

Dan arweiniad Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr (Offshore Renewable Energy Catapult), mae'r Ganolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol yn cefnogi dulliau arloesol gan ddatblygwyr technoleg a'u cadwyni cyflenwi, gan ymgorffori'r datblygiadau arloesol hyn yng Nghymru.

Mae'r Ganolfan yn gweithio i roi Cymru a chwmnïau o Gymru wrth wraidd sectorau ynni adnewyddadwy morol ac ynni adnewyddadwy ar y môr sy’n tyfu yn y DU.

Wedi'i lleoli yn Noc Penfro, mae'r ganolfan yn darparu gweithgareddau ymchwil, datblygu ac arddangos i gefnogi arloesedd yn y gadwyn gyflenwi ynni adnewyddadwy ar y môr gan gyflymu'r broses o fasnacheiddio'r sectorau ynni tonnau, llanwol a gwynt ar y môr. 

Mae'r Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr a'r Catapwlt Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel (HVMC) yn ymateb i'r cynllun twf ar gyfer y diwydiant gwynt ar y môr sy'n dangos yr uchelgais ar gyfer De Cymru.

Mae Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr hefyd yn cefnogi cynnwys gweithgarwch arloesi yn y Porthladd Rhydd Celtaidd a defnyddio rhwydwaith o hydroffonau ar draws y Môr Celtaidd.