Campuses

Mae hwn yn ddatblygiad newydd ar Gampws Singleton Prifysgol Abertawe, gan greu tua 2,000 metr sgwâr o le pwrpasol ar gyfer ymchwil ac arloesi ym Mharc Chwaraeon Sgeti Lane.

Bydd hyn yn sefydlu amgylchedd sy'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu, profi a gwerthuso technolegau meddygol, iechyd, llesiant a chwaraeon, yn ogystal â gofod ar gyfer cydweithrediadau masnachol.

Bydd hyn hefyd yn helpu i ddenu rhagor o fuddsoddiad gan sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.