Ynni a Gweithgynhyrchu Clyfar

Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer

  • £506 miliwn Cyfanswm y Buddsoddiad
  • £15 miliwn Fargen Ddinesig
  • £115 miliwn Sector Cyhoeddus
  • £376 miliwn Buddsoddiad y Sector Preifat

Bydd y prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer (HAPS) yn hwyluso'r gwaith o fabwysiadu dyluniadau sy'n effeithlon o ran ynni a thechnolegau adnewyddadwy mewn cartrefi ledled y rhanbarth gan helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, lleihau allyriadau a chefnogi twf economaidd yn y gadwyn gyflenwi technoleg adnewyddadwy ar draws y rhanbarth.

Yn ogystal â chefnogi'r gwaith o ddatblygu dyluniadau sy'n effeithlon o ran ynni mewn cynlluniau adeiladau newydd ac wrth ôl-osod cartrefi presennol, bydd y prosiect yn ymgymryd â rhaglen gynhwysfawr o fonitro a chasglu data i lywio buddsoddiad yn y dyfodol.

Mae cymorth ariannol ar gael i gymell datblygiadau tai ac i gefnogi cadwyni cyflenwi technoleg adnewyddadwy ledled y rhanbarth.

Bydd y prosiect rhanbarthol hwn yn gwneud y canlynol:

  • Creu 1,804 o swyddi
  • Cefnogi 10,300 o gartrefi newydd a phresennol drwy dechnolegau adnewyddadwy
  • Creu dros 10,417 KWh o arbedion ynni
  • Lleihau allyriadau CO2 dros 19,000 tunnell y flwyddyn
  • Cyfraniad o £251 miliwn tuag at Werth Ychwanegol Gros rhanbarthol
  • Cronfa Cymhellion Ariannol

    Bydd cronfa o £5.75m yn cymell Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Awdurdodau Lleol, landlordiaid a datblygwyr y Sector Preifat i osod technoleg mewn cartrefi i'w gwneud yn lanach, yn wyrddach ac yn fwy effeithlon.

    Darllenwch ragor am Cronfa Cymhellion Ariannol

  • Cronfa cadwyn gyflenwi

    Cronfa gwerth £7m sydd ar gael i gefnogi busnesau yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe gyda'r bwriad o edrych mor eang ag y bo modd i ddod o hyd i gadwyn gyflenwi bosibl ar gyfer technoleg adnewyddadwy.

    Darllenwch agor am Cronfa Cadwyn Gyflenwi

  • Monitro a Gwerthuso Prosiectau

    Mae'r prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer (HAPS) wedi comisiynu Ysgol Bensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd i fonitro a gwerthuso perfformiad technoleg HAPS mewn amrywiaeth o leoliadau a thai ffabrig. Bydd hyn yn mesur y manteision o ran lleihau defnydd ynni, iechyd, lleihau CO2 ac arbedion ariannol i gefnogi'r rhai mewn tlodi tanwydd.Ar ôl ei gwblhau, bydd y data'n cael ei gyhoeddi i hysbysu ac annog mwy o unigolion a datblygwyr i fabwysiadu dull HAPS.

    Darllenwch ragor am Monitro a Gwerthuso Prosiectau

     

  • Tai Arddangos HAPS

    Mae Tai Arddangos HAPS, a adeiladwyd mewn partneriaeth â Tai Tarian ac Ysgol Bensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd, yn arddangos technoleg adnewyddadwy mewn cartref.

    Darllenwch ragor an Tai Arddangos HAPS  

Cwrdd â'r Tîm
  • Oonagh Gavigan Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer - Rheolwr Prosiect
  • Alec Thomas Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer - Rheolwr Ymgysylltu a Busnesau
  • Martha Corish Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer - Swyddog Cyfathrebu a Marchnata
  • Joel Stenlake Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer - Cydlynydd Technegol
Amdanom ni