Cronfa Cadwyn Gyflenwi

Cronfa Cadwyn Gyflenwi

Cronfa gwerth £7m sydd ar gael i gefnogi busnesau yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe gyda'r bwriad o edrych mor eang ag y bo modd i ddod o hyd i gadwyn gyflenwi bosibl ar gyfer technoleg adnewyddadwy. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu a gosod technoleg fel:

  • Systemau Ynni Deallus (IES)
  • Pympiau Gwres
  • Waliau Pŵer
  • Batri
  • Ynni Solar Ffotofoltäig
  • Isgoch

Mae Cronfa’r Gadwyn Gyflenwi ar gael i gwmnïau newydd a chwmnïau presennol i alluogi busnesau bach i feithrin capasiti a/neu gwmnïau mwy sefydledig i arallgyfeirio i dechnolegau adnewyddadwy. 

Yr allbwn allweddol fydd datblygu cadwyn gyflenwi ranbarthol wrth gynhyrchu, cyrchu, gosod, gweithredu, rheoli a chynnal technolegau amgylcheddol ac offer sy'n gysylltiedig ag HAPS.