Cronfa Cymhellion Ariannol
![alt](/media/yolnsvau/istock-1497687985-min.jpg)
Cronfa Cymhellion Ariannol
Bydd cronfa o £5.75m ar gael i gymell Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Awdurdodau Lleol, landlordiaid a datblygwyr y Sector Preifat i osod technoleg mewn cartrefi i'w gwneud yn lanach, yn wyrddach ac yn fwy effeithlon.
Bydd y prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer (HAPS) yn annog ceisiadau am gynlluniau adeiladau newydd ac ôl-osod yn y rhanbarth ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cynllunio a chyflawni.
I sicrhau'r effaith fwyaf posibl, disgwylir y bydd cyllid HAPS yn gweithio ochr yn ochr â ffrydiau cyllido eraill, a allai gynnwys y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, Cyllid ECO neu fuddsoddiadau datblygwyr preifat eraill.
Pwy sy'n gymwys ar gyfer y Gronfa Cymhellion Ariannol?
Rhaid i geisiadau ymwneud â thai yn ardal Bargen Ddinesig Bae Abertawe, yn benodol cartrefi yng nghodau post Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin neu Sir Benfro.