Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel
Bydd y rhaglen gwerth £58.7 miliwn yn sicrhau swyddi a thwf cynaliadwy yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe i gefnogi'r gwaith o greu economi di-garbon ac arloesol, diolch i bartneriaeth rhwng y llywodraeth, y byd academaidd a diwydiant.
Bydd saith prosiect cysylltiedig yn cynorthwyo o ran y canlynol:
- Datgarboneiddio'r diwydiant dur a metelau
- Darparu swyddfeydd o ansawdd uchel i fusnesau
- Llunio trywydd ar gyfer masnacheiddio hydrogen
- Cefnogi'r sector gweithgynhyrchu uwch
- Sefydlu dull rhanbarthol o ran datgarboneiddio teithiau yn y rhanbarth.
Rhagwelir y bydd y rhaglen hon a arweinir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar ardal harbwr Glannau Port Talbot, yn werth £6.2 miliwn y flwyddyn i'r economi leol.
Mae'r rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel yn cynnwys saith prosiect rhyng-gysylltiedig o dan bedair thema:
- Adeilad Canolfan Dechnoleg sy'n effeithlon o ran ynni ym Mharc Ynni Baglan a fydd yn darparu swyddfeydd hyblyg i gwmnïau newydd a busnesau brodorol, gan ganolbwyntio ar y sectorau arloesi, TGCh ac Ymchwil a Datblygu. Bydd yr ynni gormodol o dechnolegau ynni'r haul a thechnolegau adnewyddadwy eraill yn cael ei drosi'n hydrogen yn y Ganolfan Hydrogen gerllaw i'w ddefnyddio fel tanwydd ar gyfer cerbydau hydrogen
- Cyfleuster arbenigol a fydd yn cefnogi'r diwydiant dur a metelau ym Mhort Talbot, Cymru a'r DU, gan leihau ei ôl-troed carbon.
- Prosiectau datgarboneiddio gan gynnwys rhwydwaith gwefru cerbydau allyriadau isel, yn ogystal â monitro ansawdd aer a phrosiect ysgogi hydrogen
- Prosiect Dyfodol Diwydiannol i fynd i'r afael â'r bwlch rhwng y galw a'r cyflenwad i fusnesau a'r tir gwag yn Ardal Fenter Glannau Port Talbot. Bydd adeilad hybrid yn darparu unedau cynhyrchu yn ogystal â swyddfeydd ar gyfer busnesau newydd a busnesau lleol yn y sectorau arloesi a gweithgynhyrchu