Training

Canolfan Ragoriaeth Sgiliau Sero Net Genedlaethol

 

Dyma brosiect newydd a gymeradwywyd ym mis Rhagfyr 2024. Bydd yn darparu hyfforddiant a datblygiad sgiliau gwyrdd dan arweiniad y diwydiant drwy uwchsgilio'r marchnadoedd llafur lleol, rhanbarthol a chenedlaethol â'r sgiliau gwyrdd priodol i alluogi pontio i economi sero net, gan gefnogi datblygiad prosiectau carbon isel lleol a rhanbarthol. 

 

Y nod yw sefydlu'r cyfleuster yn ganolfan ganolog ar gyfer gweithgarwch datblygu ymchwil ac arloesi cenedlaethol, gan ddefnyddio cyfleusterau o'r radd flaenaf i gynyddu nifer ac ansawdd y busnesau carbon isel yn y rhanbarth, gan hybu buddsoddi ac arloesi pellach. Bydd y ddarpariaeth sgiliau yn cael ei chydleoli gyda'r Cyfleuster Cynhyrchu Gweithgynhyrchu Uwch.