Prosiect map llwybrau'r seilwaith gwefru cerbydau trydan

Prosiect map llwybrau'r seilwaith gwefru cerbydau trydan
Datblygwyd y prosiect hwn mewn ymateb i'r angen i ddatgarboneiddio trafnidiaeth a mynd i'r afael â'r heriau newydd a ddaw yn sgil y nifer cynyddol o gerbydau trydan. Mae'r prosiect yn cynnwys tri cham:
Cam 1 – ymgynghori ag academyddion blaenllaw, partneriaid yn y diwydiant a'r sector cyhoeddus i lunio strategaeth gwefru cerbydau trydan effeithiol a diogel at y dyfodol.
Cam 2 - bydd yn canolbwyntio ar weithredu gorsafoedd gwefru clyfar a'r seilwaith grid sydd ei angen i gefnogi technolegau gwefru modern.
Cam 3 - defnyddio gwybodaeth a gasglwyd o'r gorsafoedd gwefru clyfar a weithredwyd i greu set ddata fanwl ynghylch ymddygiadau o ran gwefru cerbydau trydan yn yr ardal. Bydd yn cael ei defnyddio i ysgogi ymchwil i bynciau gan gynnwys trosglwyddo o gerbyd i'r grid ar gyfer systemau ynni hyblyg, gorsafoedd pŵer rhithwir, a modelau busnes/economaidd i'r dyfodol ar gyfer gorsafoedd gwefru cerbydau trydan.