Rhaglen Monitro Ansawdd Aer

Rhaglen Monitro Ansawdd Aer
Datblygwyd y prosiect hwn mewn ymateb i faterion ansawdd aer a'r angen i ddeall lefelau llygredd i wneud penderfyniadau gwybodus ar fesurau lliniaru ac ymyrryd. Bydd y prosiect yn cynnwys system monitro a dadansoddi i ddarparu ffynonellau data ansawdd aer wedi'u dilysu. Bydd y ddadansoddeg data a gynhyrchir gan y prosiect yn helpu i nodi cydberthynas â ffactorau fel ffynonellau llygredd, y tu mewn a'r tu allan i'r ardal. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i brynu monitorau ansawdd aer ac ar gyfer y rhan o'r prosiect sy'n ymwneud â dadansoddi data. Mae posibilrwydd o efelychu'r gweithgaredd hwn ar draws y rhanbarth, Cymru, y DU a ledled y byd.